Gwobr o鈥檙 Unol Daleithiau i arbenigwr mewn Heneiddio
Yr Athro Bob Woods o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, arbenigwr a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei waith ar heneiddio a dementia, fydd y person cyntaf y tu allan i America i dderbyn Gwobr Americanaidd ddydd Iau 13 Hydref 2011.
Bydd yr Athro Bob Woods, sydd yn Gyfarwyddwr Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ac Athro Seicoleg Glinigol yr Henoed ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn derbyn y degfed Wobr Reisberg Blynyddol ac yn traddodi darlith yn New York wrth ei dderbyn.
Mae鈥檙 Wobr Flynyddol yn cael ei ddyfarnu ar y cyd gan "I鈥檓 still here Foundation", corff sy'n cefnogi gofal a thriniaeth ar gyfer y pum miliwn o bobl sy鈥檔 byw gyda chlefyd Alzheimer yn yr Unol Daleithiau a Dr Barry Reisberg, Cyfarwyddwr Clinigol Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Prifysgol Efrog Newydd. Mae鈥檔 cydnabod pobl sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig ym maes triniaeth ddi-gyffur ar gyfer clefyd Alzheimer.
Bydd yr Athro Woods yn areithio i weithwyr proffesiynol a phartneriaid gofal yn y cyfarfod yn Efrog Newydd ar y testun: Dod o hyd i obaith mewn gofal dementia: Pa wahaniaeth a wnawn?
Mae Bob Woods yn seicolegydd clinigol sydd wedi bod yn gysylltiedig 芒 datblygu a gwerthuso ymyriadau seicolegol i bobl 芒 dementia a'u cefnogwyr am 35 mlynedd. Mae wedi arloesi ym maes ymdriniaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn enwedig mewn perthynas ag ysgogiad gwybyddol a gwaith hel atgofion. Mae'n parhau i weithio yn glinigol ac yn arwain rhaglen lledaenu eang, gan gynnwys hyfforddiant staff a datblygiad y gwasanaeth. Mae wedi derbyn gwobrau gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig a'r Gymdeithas Alzheimer, sy鈥檔 cydnabod ei gyfraniad wrth ymwneud 芒 datblygu a gwerthuso.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Hydref 2011