Gwobrau am effaith ymchwil Prifysgol 香港六合彩挂牌资料
Mae tri phroject sydd wedi cael effaith eithriadol mewn meysydd gwahanol iawn i'w gilydd wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Effaith Ymchwil a Menter cyntaf Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Enillodd math newydd o hedyn India corn sydd wedi bod o fudd i rai cannoedd o filoedd o ffermwyr yng ngorllewin yr India y wobr am yr Effaith Diwylliannol a Chymdeithasol. Mae'r India corn newydd sydd wedi cynyddu'r cnydau'n sylweddol ac wedi gwella sicrwydd bwyd bellach yn gyfrifol am 80% o'r hadau India corn a gynhyrchwyd yn Gujarat ers ei ryddhau yn 2002.
Datblygwyd yr hedyn gan Dr John Witcombe yn y Ganolfan Ymchwil Uwch mewn Datblygiad Amaethyddol Rhyngwladol (CARIAD) ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 gyda phartneriaid sef y Gramin Vikas Trust (GVT), KRIBHCO Bhavan, NOIDA, New Delhi a Phrifysgol Amaethyddol Gujarat (GAU), yr India. Yr amcan oedd datblygu hedyn sy'n addas i'w dyfu gan ffermwyr prin eu hadnoddau yn nhaleithiau gorllewin yr India sef Gujarat, Rajasthan a Madhya Pradesh. Mae'r ffermwyr hyn yn tyfu India corn ar bridd gwael heb ddim neu fawr ddim gwrtaith mewn ardaloedd lle ceir sychdwr yn aml. Oherwydd hyn mae cnydau megis India corn yn fregus iawn.
Dyfarnwyd i Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 am eu gwaith yn 'Gweithredu ymyriadau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar sy'n gwella lles'.
Mae'r ganolfan wedi cael enw da drwy'r byd am ragoriaeth ac arweiniad a dyma oedd y ganolfan ymwybyddiaeth ofalgar gyntaf mewn prifysgol yn y Deyrnas Unedig, a'r un gyntaf i sefydlu rhaglen Meistr yn y maes newydd hwn. Mae gwaith y Ganolfan yn cael effaith ar bolisi a darparu gwasanaethau yn lleol yng ngogledd Cymru, ar draws y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop ac America. Mae gan y Ganolfan brojectau gyda nifer fawr o sefydliadau lleol yn ogystal 芒 nifer ymhellach i ffwrdd ac yn rhyngwladol.
Enillodd y project 'Train in, not select out' a redwyd gan yr Athro Lew Hardy yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit, Ysgol Gwyddorau Ymarfer
Mae dros ddeng mlynedd o ymchwil a gweithredu, mewn partneriaeth ag Is-adran Recriwtio a Hyfforddi'r Fyddin Brydeinig, wedi arwain at newidiadau yn yr hyfforddiant a ddarperir ar draws y tri Llu Arfog. Ffurfiwyd sefydliad hyfforddi newydd, ynghyd 芒 chorff monitro a hyfforddi i'r tri llu, gwelwyd iechyd meddwl gwell ymysg recriwtiaid i'r gwasanaeth milwrol, a gostyngiad sylweddol yn y cyfraddau ymadael (hyd at 15%).
Mae model 香港六合彩挂牌资料 a ddatblygwyd gan yr ymchwil hwn wedi cael ei ddefnyddio hefyd gan luoedd arfog Canada a'r Unol Daleithiau. Roedd y project yn ymdrin 芒'r ganran uchel o recriwtiaid sy'n gadael neu'n methu, rhywbeth sydd wedi bod yn broblem oesol i'r Lluoedd Arfog. Roedd model a ddatblygwyd ac a hyrwyddwyd yn yr Is-adran Recriwtio a Hyfforddi yn gostwng y nifer oedd yn gadael trwy ddefnyddio arferion hyfforddi gwell. Roedd yr ymchwil dan nawdd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn canolbwyntio ar fanteision hyfforddi swyddogion heb gomisiwn sy'n ymwneud 芒 hyfforddi recriwtiaid, mewn sgiliau arwain trawsffurfiannol a hyfforddi.
Meddai'r Athro John G. Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol am y digwyddiad, "Ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 rydym yn creu gwybodaeth sy'n rhagori'n rhyngwladol ac yn cyfuno hyn gydag arloesedd i wneud yn si诺r bod ein holl feysydd ymchwil o fudd i eraill.
"Mae鈥檙 gweithgareddau ymchwil a menter sy'n mynd ymlaen ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at wella lles economaidd a chymdeithasol Cymru a'r byd. Mae'r projectau a amlygwyd gan y gwobrau hyn yn dangos effaith gadarnhaol y Brifysgol ar yr economi a chymdeithas."
Dywedodd yr Athro Jo Rycroft Malone, Cyfarwyddwr Ymchwil Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, "Mae ein gwobrau effaith yn rhoi cyhoeddusrwydd i waith y brifysgol ac yn dathlu ein llwyddiannau. Yn y gystadleuaeth gyntaf hon, bu'r panel yn ystyried dros 20 o geisiadau. Roedd safon y gystadleuaeth yn uchel iawn, ac rydym yn cydnabod y cyfoeth o ddoniau sydd gennym ar draws ein prifysgol. Mae hanesion ein henillwyr yn ysbrydoliaeth i eraill ac yn amlygu'r gwahaniaeth y gall ymchwil Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ei wneud."
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013