Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2015
Cynhaliwyd y seremoni flynyddol yn dyfarnu Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr ynghyd 芒 gwobrwyo Cynrychiolwyr Cwrs am y bedwaredd tro yn ddiweddar.
Trefnir y digwyddiad gan Undeb y Myfyrwyr ac mae'r Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu cefnogaeth a'u gwerthfawrogiad o'r staff sydd wedi gweithio鈥檔 galed a dangos ymroddiad drwy gydol cyfnod y myfyrwyr ym Mangor. Gyda dros 300 o enwebiadau ar draws 11 categori eleni, mae'n amlwg bod myfyrwyr y brifysgol yn cydnabod y cyfraniad gwych gan aelodau staff ar draws pob gwasanaeth ac ysgol academaidd.
Dywedodd Lydia Richardson, Is-lywydd Addysg a Lles Undeb Myfyrwyr 香港六合彩挂牌资料: "Rydym wedi gweld llawer o enwebiadau gwych eleni. Mae hyn yn dangos bod y profiad a鈥檙 gefnogaeth a roddir gan ein staff heb ei ail. Mae鈥檙 gwobrau yn dangos yn glir bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi鈥檙 ymdrech a roddir gan staff i鈥檞 darlithoedd, adborth, cymorth ac arweiniad. Heb unrhyw amheuaeth, edrychir ymlaen at y gwobrau ac maent yn un o鈥檙 digwyddiadau sy鈥檔 rhoi mwynhad mawr yn ystod y flwyddyn.鈥
Dywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor: "Mae'r Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr yn prysur datblygu i fod yn un o draddodiadau 香港六合彩挂牌资料, ac un a gaiff ei werthfawrogi gan fyfyrwyr a staff. Mae'n wych gweld cymaint o staff yn cael eu cydnabod. Rydym yn ffodus iawn i gael cymaint o unigolion ymroddedig sy'n mynd i drafferth mawr i sicrhau鈥檙 profiad gorau posib i fyfyrwyr ym Mangor. Mae'n wych gallu dathlu hyn ynghyd 芒'r Gwobrau Cynrychiolwyr Cwrs. Mae ein myfyrwyr yn gweithio'n galed i鈥檔 helpu i wella pethau ar gyfer eu cyd fyfyrwyr, ac mae鈥檙 brifysgol yn gwerthfawrogi eu hymdrechion yn fawr iawn".
Llongyfarchiadau i鈥檙 enillwyr haeddiannol iawn yn 2015:
Gwobr Cefnogaeth Fugeiliol Eithriadol | Gillian Griffith, Ysgol Cerddoriaeth |
Gwobr am Hyrwyddo Addysg Cyfrwng-Cymraeg | Peredur Webb-Davies, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg |
Gwobr Ryngwladol | Stephen Clear, Ysgol y Gyfraith |
Goruchwylydd Traethawd Hir/Thesis y Flwyddyn | Nia Whiteley, Ysgol Gwyddorau Biolegol |
Aelod o Staff Cefnogi鈥檙 Flwyddyn | Elizabeth Williams, Ysgol Seicoleg |
Gwobr Adran Gwasanaethau Myfyrwyr | Kate Tindle, Gwasanaeth Cynghori |
Athro 脭l-radd y Flwyddyn | Rebecca Jones, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth |
Athro Newydd y Flwyddyn | Matt Hayward, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth |
Gwobr Adborth Ardderchog | Sarah Cooper, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg |
Gwobr Agored | Coleen Suckling, Ysgol Gwyddorau Biolegol |
Athro/Athrawes y Flwyddyn | Mattias Green, Ysgol Gwyddorau Eigion |
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015