Hannah yn Ennill Medal Aur yn Awstria
Enillwyd medal aur yn 12fed Grand Prix Codi Pwysau Ewropeaidd Rhyngwladol Vienna, Awstria gan fyfyriwr Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Mae Hannah Powell, 22 oed, sy鈥檔 hanu o Birmingham, ar hyn o bryd yn ei blwyddyn gyntaf ar gwrs gradd mewn Gwyddor Chwaraeon ac wedi codi pwysau ers iddi fod yn 14 oed; bellach, mae hi鈥檔 cynrychioli Gwledydd Prydain.
Ymunodd Hannah 芒 Th卯m Cymru ar y daith fel gwestai ac fel cynrychiolydd Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys M么n. Roedd Tiffany Brannan, Hyfforddwr Ffitrwydd yng Nghanolfan Brailsford, canolfan chwaraeon y Brifysgol, hefyd yn cynrychioli Cymru.
Roedd y gystadleuaeth wedi'i threfnu'n dda ac yn cynnwys rhai o'r codwyr pwysau gorau yn Ewrop gan gynnwys cyn Olympiaid ac athletwyr Gemau'r Gymanwlad yn ogystal 芒 rhai o godwyr pwysau mwyaf addawol y cyfandir.
Yn y sesiwn ddydd Gwener gwelwyd Tiffany a Hannah yn cystadlu yn y sesiwn gyda'r hwyr. Dangosodd Tiffany benderfyniad a chalon enfawr yn goroesi anaf i'w hysgwydd a gafodd ar ei chipiad terfynol, a llwyddodd i hawlio'r fedal Efydd ar ei phlwc olaf. Ei chyfanswm terfynol oedd 131kg - cipiad o 55kg a phlwc o 76kg.
Cafwyd perfformiad cryf iawn gan Hannah. Ei chodiadau gorau oedd 64kg yn y cipiad ac 82kg yn y plwc a olygai iddi ennill y fedal aur o led gyffyrddus. Yn ogystal 芒 hynny cafodd Hannah y pedwerydd sg么r Sinclair uchaf ar draws y gystadleuaeth gyfan.
Mae'r ddwy ohonynt wedi gosod seiliau cryf i adeiladu arnynt ar gyfer y Pencampwriaethau Prydeinig ym Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015