Llwybr arall cyffrous i Ffisiotherapi ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料
Gyda ffisiotherapyddion yn aml yn brin, mae rheolwyr gwasanaeth ffisiotherapi a darpar fyfyrwyr yng Nghymru wedi dangos diddordeb cryf yn natblygiad llwybr carlam 2 flynedd cyn-gofrestru wedi'i anelu at ymgeiswyr graddedig. Ystyrir y math hwn o raglen yn ddull gwahanol cyffrous o fynd i'r proffesiwn yn hytrach na'r llwybr arferol i israddedigion.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) wedi comisiynu llwybrau ffisiotherapi ar lefelau israddedig ac 么l-raddedig ledled Gogledd Cymru. Mae'r cwrs ym Mangor yn rhaglen garlam Ffisiotherapi 2 flynedd sy'n gymar i'r rhaglen israddedig 3 blynedd ym Mhrifysgol Glynd诺r.
Cynlluniwyd y rhaglen garlam 么l-raddedig fel ffordd effeithlon ac arloesol i ehangu mynediad i'r proffesiwn, gan barhau i ddarparu gweithlu ffisiotherapi o ansawdd uchel i'r Bwrdd Iechyd lleol a thu hwnt.
Meddai Dr Lynne Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Iechyd:
鈥淩ydym yn falch iawn o fod yn cynnig y rhaglen hon. Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi ymrwymo'n llwyr i gynnig rhaglen ffisiotherapi fel rhan o bortffolio yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ac mae'n croesawu'r datblygiad newydd hwn fel un o'r disgyblaethau allweddol ar gyfer hyrwyddo dysgu rhyngbroffesiynol i fyfyrwyr. "
Wrth siarad yn fuan ar 么l ei benodi dywedodd Jonathan Flynn, Arweinydd Cwrs Ffisiotherapi PGDip;
鈥淒wi'n edrych ymlaen at arwain y rhaglen ffisiotherapi, gan weithio mewn partneriaeth agos ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yn ogystal 芒 datblygu cydweithio llwyddiannus gyda chydweithwyr sy'n hwyluso鈥檙 rhaglen israddedig yn Glynd诺r. Fy ngobaith yw y bydd y cwrs yn tyfu ac yn dod yn rhan ganolog o'r cynllun strategol ar gyfer iechyd i Gymru gyfan, yn ogystal 芒 darparu sylfaen gref i'w holl ddysgwyr yn y dyfodol fel eu bod nid yn unig yn dod yn ffisiotherapyddion y dyfodol, ond yn arweinwyr gofal iechyd y dyfodol. "
Croesawodd Nesta McCluskey, Pennaeth Ffisiotherapi (Dwyrain) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y datblygiad newydd hwn gan ddweud;
鈥淩wy鈥檔 falch iawn bod cwrs Ffisiotherapi newydd yn dechrau yng Ngogledd Orllewin Cymru. Mae'r cwrs hwn yn cynyddu'r opsiynau sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n anelu at fod yn Ffisiotherapyddion ac sydd eisoes 芒 gradd gyntaf gysylltiedig. Gan ei fod ynghanol Gogledd Cymru bydd y cwrs yn rhoi golwg gyflawn ar y cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig 芒 gweithio mewn cymuned ddwyieithog ac amrywiol yn ddaearyddol. Bydd myfyrwyr yn treulio amser mewn llawer o'r gwahanol safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru lle byddant yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn gyrfa werth chweil ac amrywiol."
Gall darpar ymgeiswyr ddarganfod mwy am y cwrs yma.
Mae'r datblygiad hwn yn unol 芒 Chynllun Cymru Iachach, Llywodraeth Cymru (2018) a Strategaeth Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig (Public Health England 2019-2024, 2019).
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2019