Mae gwybod sut a ble i edrych yn lleihau'r risgiau wrth yrru
Gallai hyfforddi gyrwyr ifanc a newydd i sylwi ar gyrion eu maes golwg leihau nifer y damweiniau ar y ffyrdd. Damweiniau traffig y ffordd yw un o'r prif bethau sy'n achosi marwolaethau yn fyd-eang a gyrwyr newydd, ifanc sydd fwyaf tebygol o fod mewn damweiniau o'r fath.
Mae gyrru car yn dasg eithaf cymhleth sy'n gofyn i ni wneud nifer o dasgau ar yr un pryd. Mae talu sylw i'r hyn sy'n digwydd ar gyrion y maes gweledol yn un o'r tasgau hynny. Gyda phrofiad, mae gyrwyr yn dysgu canfod bygythiadau posibl ar gyrion eu maes gweledol. Fodd bynnag, mae gyrwyr newydd yn brysur yn prosesu gwybodaeth anghyfarwydd ar y ffordd a does ganddyn nhw ddim y gallu i dalu sylw i gyrion eu maes gweledol.
Mae Dr Donghyun Ryu yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn profi ac yn datblygu dull hyfforddi newydd a allai gyfrannu'n sylweddol at wneud y ffyrdd yn fwy diogel.
Drwy ddatblygu techneg hyfforddi i addysgu pobl i dalu sylw i gyrion eu maes gweledol, mae'n gobeithio gwella canfyddiad gyrwyr newydd o beryglon.
"Ar ddiwedd yr astudiaeth byddai'n bosibl cyflwyno'r dull hyfforddi yma mewn ysgolion gyrru ledled y byd," meddai Dr Donghyun Ryu.
Os ydych chi'n meddwl beth sydd a wnelo hyn 芒 chwaraeon, meddai Dr Ryu:
"Dan ni wedi bod yn llwyddiannus wrth brofi'r dull yma gyda phobl sy'n gwneud chwaraeon i geisio gwella eu perfformiad trwy eu dysgu i ddewis ac integreiddio'r wybodaeth fwyaf defnyddiol. Gan fod gyrru hefyd yn dibynnu ar ganfyddiad rhywun o amgylchedd sy'n newid yn gyflym, mi benderfynais y byddwn yn profi techneg hyfforddi debyg ar yrwyr newydd."
Caiff ymchwil Dr Ryu, How To Reduce The Risk Of Accidents In Driving: The Effect Of Gaze-Contingent Perceptual Training On Driving Safety ei hariannu gan Gymrodoriaeth 脭l-ddoethurol Cronfa Ymchwil AXA. Dyma fideo y maent wedi'i gynhyrchu.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2018