Mae Methodoleg Eusle o ddiddordeb yng Nghymru
Fis diwethaf bu myfyriwr ymchwil o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, Arwel Tomos Williams, ar ymweliad byr 芒 Chyngor Tref Lemoa lle cyfarfu 芒 Gorka Barrenetxea, technegydd ar broject Aldahitz, ynghyd 芒 phum aelod staff a oedd yn cymryd rhan yn y project. Mae Arwel yn ymddiddori mewn seicoleg ymddygiadol a'i nod yw llunio thesis ar gynyddu defnydd o'r Gymraeg mewn gweithleoedd dwyieithog.
Mae Arwel, ynghyd 芒'i oruchwylwyr, yn awyddus i weithredu rhywbeth tebyg i fethodoleg Eusle (y project Aldabitz) ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 i weld a all arferion ieithyddol yn y gweithle dwyieithog newid, gan gynyddu defnydd o'r Gymraeg ymysg staff. Ar 么l i Arwel a'i oruchwylwyr ddod i wybod am sylfeini'r fethodoleg, ymwelodd Arwel 芒 swyddfeydd Soziolinguistika Klusterra yn Andoain i gael trafodaeth faith 芒'r ymchwilwyr er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o seiliau damcaniaethol ac ymarferol y project.
Yn ogystal cyfarfu Arwel 芒 rhai o'r unigolion a gymerodd ran yn y project yng Nghyngor Tref Lemoa er mwyn cael mwy o wybodaeth ar sut i'w weithredu a sut mae'n gweithio, yn ogystal 芒 chael sylwadau ansoddol gan y cyfranogwyr eu hunain. Yn y cyfarfod hwn bu Patxi Martinez mor garedig 芒 chynnig ei sgiliau cyfieithu i helpu'r drafodaeth Basgeg-Saesneg rhwng Arwel a'r cyfranogwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2017