Mae mwnc茂od rhesws yn ymwybodol o gyfradd eu curiad calon eu hunain, y model anifeiliol cyntaf o'i fath o fewnganfyddiad
Mae macacos rhesws yn ymwybodol o’u curiad calon eu hunain, yn ôl astudiaeth newydd gan y California National Primate Research Centre ym Mhrifysgol Davis California, a Royal Holloway, Prifysgol Llundain gyda mewnbwn gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料. Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yn , yn creu’r model anifeiliol cyntaf o’i fath o fewnganfyddiad.
Mae mewnganfyddiad yn cyfeirio at y gallu i synhwyro cyflwr mewnol eich corff, megis sylwi bod eich calon yn curo’n gyflym neu eich bod yn anadlu'n gyflym. Mae'r canfyddiadau'n darparu model pwysig ar gyfer ymchwil seiciatrig a niwroseiciatrig yn y dyfodol gan fod diffygion mewnganfyddol yn gysylltiedig â gorbryder, iselder ysbryd, a chlefyd Alzheimer.
Mae'r astudiaeth yn rhan o gydweithrediad rhwng Eliza Bliss-Moreau, sy’n athro cysylltiol mewn seicoleg ym Mhrifysgol Davis Califfornia ac yn un o brif wyddonwyr y ganolfan ymchwil i brimatiaid a geir yno, a'r gwyddonydd Manos Tsakiris, o'r Adran Seicoleg yn y Royal Holloway, dan arweiniad y myfyriwr doethurol Joey Charbonneau ac sy’n cynnwys Lara Maister, sy’n ddarlithwraig yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Bu'r tîm yn monitro pedwar o fwncïod rhesws a eisteddai o flaen traciwr llygaid isgoch a ddangosai ysgogiadau a oedd yn bownsio ac yn cynhyrchu sain naill ai'n gydamserol neu'n anghydamserol (yn gyflymach ac yn arafach) gyda churiad calon y mwncïod. Mae arbrawf o'r fath yn manteisio ar y ffaith bod mwncïod a babanod dynol yn edrych am fwy o amser ar bethau sydd yn eu synnu neu sy'n annisgwyl.
Treuliodd y pedwar mwnci fwy o amser yn edrych ar yr ysgogiadau nad oedd yn cadw at rythm curiad eu calon o gymharu â’r ysgogiadau a oedd yn cadw at rythm curiad eu calon - gan awgrymu eu bod yn synhwyro bod yr ysgogiadau nad oedd yn cadw at rythm eu curiad calon yn peri syndod iddynt yn seiliedig ar rythm disgwyliedig eu curiad calon. Mae'r canlyniadau hyn yn gyson â thystiolaeth a gafwyd yn flaenorol mewn babanod dynol gan ddefnyddio dull tebyg. Mae hyn yn darparu’r dystiolaeth ymddygiadol gyntaf bod gan fwncïod rhesws allu tebyg i fodau dynol i fod yn ymwybodol o’u curiad calon eu hunain a bod ganddynt synnwyr mewnganfyddol.
“Pam fod hyn yn bwysig? Mae mewnganfyddiad, neu hunan-fonitro eich systemau ffisiolegol eich hun, yn ymwneud â phob agwedd ar fywyd dynol,” meddai Bliss-Moreau.
Mae’r gallu i synhwyro ein cyflwr mewnol yn gallu amlygu materion oddi fewn i’r corff sydd angen sylw. Mae diffyg ymwybyddiaeth fewnganfyddol yn gysylltiedig â llai o allu i reoleiddio emosiynau a rhagor o duedd o gael problemau iechyd meddwl megis gorbryder ac iselder.
“Mae mewnganfyddiad yn hynod bwysig ar gyfer rheoleiddio emosiynau ac iechyd meddwl mewn oedolion, ac eto ychydig iawn yr ydym yn ei wybod am sut mae'n datblygu yn ystod babandod cynnar neu dros amser yn esblygiadol,” meddai Tsakiris. “Mae’r gwaith rydyn ni’n ei gyflwyno yma yn cynrychioli’r ymgais lwyddiannus gyntaf i lenwi’r bylchau hyn.”
Mae diffygion mewnganfyddol hefyd wedi'u cysylltu â chlefydau niwroddirywiol megis clefyd Alzheimer.
“Bydd y model hwn yn cael ei ddefnyddio mewn astudiaethau trawsfudol yn y dyfodol i glefydau niwroddirywiol, gan gynnwys clefyd Alzheimer,” meddai Bliss-Moreau. “Os gallwn fesur mewnganfyddiad, gallwn ei olrhain fel biofarciwr ymddygiadol o ddatblygiad afiechydon.”
Mae’r astudiaeth yn rhoi mewnwelediad i’r ffyrdd y gellir harneisio model y macacos rhesws i wella ein dealltwriaeth o weithrediad yr ymennydd a’r corff.
“Y cam nesaf yw astudio’r mecanwaith hwn gyda gwahanol gyflyrau seiciatrig a niwroseiciatrig,” meddai Tsakiris.
Mewn astudiaeth flaenorol, datblygodd Lara a’r Athro Tsakiris dasg unigryw, sef tasg ‘iBEATS’, a’u galluogodd am y tro cyntaf i ymchwilio i sensitifrwydd mewnganfyddiad mewn babanod ifanc nad ydynt yn siarad eto.
Eglurodd Lara: “Yn yr astudiaeth gyfredol, buom yn cydweithio â’r tîm ym Mhrifysgol Davis Califfornia i addasu’r dasg hon i fod yn addas i’w defnyddio mewn primatiaid nad ydynt yn ddynol. Roeddem wrth ein boddau pan ddarganfuom bod ein canfyddiadau mewn babanod 5 mis oed yn cael eu hailadrodd mewn gr诺p o facacos rhesws, canfyddiad sydd â goblygiadau enfawr i’n dealltwriaeth o darddiad esblygiadol y synnwyr pwysig hwn.”
Cefnogwyd y project hwn gan Gymrodoriaeth Canghellor Prifysgol David Califfornia i EB-M. a chan Grant Cydgrynhoi'r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC-2016-CoG-724537) fel rhan o’r Seithfed Rhaglen Fframwaith ar gyfer project INtheSELF a chyllid Sefydliad NOMIS i M.T. Mae’r California National Primate Research Center yn cael ei chefnogi gan grant NIH Office of the Director Award P51-OD011107.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2022