Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynyddu'r risg o salwch meddwl, ond gall cymorth cymunedol gynnig diogelwch
Mae pobl sydd wedi dioddef cam-drin, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod (ACEs) fel byw gyda thrais domestig yn ystod eu plentyndod yn wynebu risg uwch o lawer o salwch meddwl drwy gydol eu hoes.
Cafodd canfyddiadau o astudiaeth genedlaethol newydd ledled Cymru fod oedolion a oedd wedi dioddef pedwar neu fwy o fathau o ACE bron 10 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi teimlo eu bod eisiau lladd eu hunain neu wedi hunan-niweidio o gymharu 芒'r rhai nad oedd wedi cael unrhyw brofiadau ACE.
Gwnaeth yr astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol 香港六合彩挂牌资料 ganfod hefyd bod rhai mesurau cymunedol sylfaenol yn helpu i adeiladu cydnerthedd a all helpu i ddiogelu unigolion rhag datblygu'r problemau iechyd meddwl y gall ACEs eu hachosi.
Mae canlyniadau'n dangos po fwyaf o ACEs roedd pobl yn dioddef, y mwyaf oedd eu risg o salwch meddwl drwy gydol eu hoes. Roedd pa un ai oedd unigolion erioed wedi cael triniaeth ar gyfer salwch meddwl wedi cynyddu o 23 y cant o'r rhai heb ACEs i 64 y cant o'r rhai 芒 phedwar neu fwy o ACEs. O ran teimlo eu bod eisiau lladd eu hunain neu wedi hunan-niweidio roedd y cynnydd o 6 y cant i 39 y cant.
Roedd datblygu cydnerthedd drwy fynediad i oedolyn y gellir ymddiried ynddo yn ystod plentyndod, ffrindiau cefnogol a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, fel chwaraeon, yn lleihau'r risgiau o ddatblygu salwch meddwl; hyd yn oed ymhlith y rhai a oedd yn profi lefelau uchel o ACEs.
Yn gyffredinol, roedd cael ffrindiau cefnogol, cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad cymunedol, pobl i'w parchu a ffynonellau eraill o gydnerthedd yn ystod plentyndod yn fwy na haneru salwch meddwl presennol mewn oedolion gyda phedwar neu fwy o ACEs o 29 y cant i 14 y cant, ac erioed wedi teimlo eu bod eisiau lladd eu hunain neu wedi hunan-niweidio o 39 y cant i 17 y cant.
Roedd cymryd rhan mewn chwaraeon fel plentyn ac oedolyn yn ffynhonnell arall o gydnerthedd i salwch meddwl gyda'r achosion o gael triniaeth bresennol am salwch meddwl yn gostwng o 23 y cant mewn oedolion nad oeddent yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn chwaraeon i 12 y cant ymhlith y rhai a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd.
Dywedodd yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd hefyd yn Ddarlithydd er Anrhydedd yn y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad:
鈥淩oedd tua un o bob wyth o oedolion yng Nghymru wedi dioddef lefelau uchel o ACEs fel cam-drin, esgeulustod a thrais domestig yn ystod plentyndod. Mae'r astudiaeth hon yn dangos sut y gall plentyndod o'r fath effeithio ar iechyd meddwl unigolion drwy gydol eu bywydau.
鈥淔odd bynnag, mae ein canlyniadau hefyd yn awgrymu y gall cymunedau sy'n darparu cyfleoedd i gymryd rhan a datblygu sgiliau, trin plant yn deg a chynnig modelau r么l da helpu i ddiogelu unigolion rhag rhai o effeithiau niweidiol hirdymor cartrefi camdriniol.
鈥淚 ormod o bobl yng Nghymru, mae ACEs yn dal yn rhan o blentyndod ac yn faich y mae rhai ohonynt yn ei gario gyda hwy drwy gydol eu bywyd.
鈥淢ae sefydliadau'r sector cyhoeddus ledled Cymru eisoes yn gweithio gyda'i gilydd i leihau nifer y plant sy'n dioddef ACEs. Drwy gydweithio hefyd ar sut y gallwn adeiladu cymunedau teg a chefnogol gallwn gynyddu lefelau o gydnerthedd mewn plant ac oedolion a sicrhau y gall y rhai sydd wedi dioddef ACEs osgoi llawer o'r canlyniadau sy'n niweidio iechyd.鈥
Dywedodd yr awdur arweiniol, yr Athro Karen Hughes, o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd:
鈥淢ae ACEs yn cynyddu'r risg o salwch meddwl, ac mae adnoddau cydnerthedd yn lleihau'r risg hon. Yn anffodus, mae pobl sy'n dioddef ACEs yn aml yn cael eu heffeithio ddwywaith oherwydd fel arfer mae ganddynt lai o ffynonellau o gydnerthedd ar gael gartref, a gallant wynebu mwy o anawsterau'n cael gafael ar adnoddau o'r fath yn y gymuned.
鈥淢ae atal ACEs yn rhan hanfodol o wella iechyd meddwl yng Nghymru, ond bydd sicrhau y gall unigolion agored i niwed sy'n parhau i gael eu heffeithio gan ACEs adeiladu cydnerthedd hefyd yn cyfrannu at atal salwch meddwl.鈥
Dywedodd Huw Irranca-Davies, Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant Llywodraeth Cymru:
鈥淢ae'r profiadau a gawn yn ystod plentyndod, da a drwg, yn allweddol wrth benderfynu ein canlyniadau bywyd. Darparu amgylchedd diogel a gofalgar yw'r ffordd orau o sicrhau y daw plentyn yn oedolyn iachach a hapusach; ac un a fydd yn gallu mynd ymlaen i gyflawni ei botensial.
鈥淢ae'r dystiolaeth yn glir iawn. Mae'r rhai sy'n profi plentyndod o ansawdd gwael a llawn straen yn fwy tebygol o gael canlyniadau bywyd gwael; po fwyaf yr ACEs a wynebwyd, y mwyaf oedd y bygythiad a berir.
鈥淢ae Astudiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos yn glir beth yw maint yr her. Mae ACEs yn fygythiad pendant i iechyd a llesiant, ffyniant cymdeithasol ac economaidd unigolion, cymunedau a'r wlad gyfan. Dyma pam rydym wedi gwneud mynd i'r afael ag ACEs yn ymrwymiad trawslywodraethol.
鈥淣id yw Llywodraeth Cymru yn gallu mynd i'r afael ag ACEs ar ei phen ei hun. Mae'n hollbwysig i'r rhai sy'n cefnogi plant a theuluoedd i ddod yn ymwybodol o ACE. Dyna pam rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi Cymru Well Wales i sefydlu'r Ganolfan Cymorth ACE, a fydd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu unigolion, cymunedau a sefydliadau i ddod yn hyddysg am ACE yn eu gwaith.鈥
Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru:
"Mae hyn yn rhagor o dystiolaeth gymhellol o fanteision ehangach chwaraeon a hamdden corfforol. Rydym yn gwybod bod tua hanner poblogaeth Cymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, gan ddod ag agweddau cadarnhaol i'w bywydau sy'n cynnwys gwell iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal 芒 gwell cyfleoedd cymdeithasol, hyder a llawer o agweddau eraill sy'n cyfrannu at ffordd iach o fyw.
"Yr hyn sydd angen i ni ganolbwyntio arno nawr yw chwalu'r rhwystrau i chwaraeon a hamdden corfforol i'r bobl hynny nad ydynt yn cael budd hyd yma. Pan fyddwn yn dechrau mynd i'r afael 芒'r materion hynny gallwn ddechrau datgloi dyfodol iach iawn i Gymru."
Mae ACEs yn brofiadau trawmatig sy'n digwydd cyn 18 oed. Mae'r profiadau hyn yn amrywio o gam-drin llafar, meddyliol a chorfforol, i ddod i gysylltiad ag alcoholiaeth, y defnydd o gyffuriau a thrais domestig gartref.
Cynhaliwyd Arolwg Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a Chydnerthedd i archwilio ffactorau unigol a chymunedol a all gynnig diogelwch rhag effeithiau niweidiol ACEs ar iechyd, llesiant a ffyniant ar draws y cwrs bywyd.
Roedd canfyddiadau allweddol eraill o'r astudiaeth yn cynnwys:
- Gwnaeth cyfran y bobl 芒 phedwar neu ragor o ACEs sy'n nodi salwch meddwl presennol ostwng o 37 y cant yn y rhai 芒 lefelau cydnerthedd cyffredinol isel pan oeddent yn oedolion i 13 y cant yn y rhai 芒 lefelau cydnerthedd cyffredinol uchel pan oeddent yn oedolion
- Gwnaeth cyfran y bobl 芒 phedwar neu fwy o ACEs sy'n nodi salwch meddwl presennol ostwng o 35 y cant yn y rhai a oedd yn teimlo'n ddiogel yn ariannol am ddim mwy na mis i 11 y cant yn y rhai a oedd yn teimlo'n ddiogel yn ariannol am o leiaf pum mlynedd
Disgrifir cydnerthedd fel y gallu i oresgyn caledi difrifol fel y rhai a gyflwynir gan ACEs.
Cafodd data eu casglu rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2017 mewn cyfweliadau wyneb yn wyneb 芒 sampl yng Nghymru o 2,005 o bobl 18-69 oed, a sampl atgyfnerthu o 492 o breswylwyr mewn ardaloedd 芒 lefelau uwch o Gymraeg llafar.
Cafodd yr adroddiad newydd ei gyhoeddi yn lansiad Canolfan Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) amlasiantaeth. Bydd y Ganolfan yn helpu sefydliadau a chymunedau ledled Cymru i ddarganfod mwy am ACEs a'u heffeithiau, a deall pa gamau gweithredu y gallant eu cymryd i ddod yn fwy hyddysg am ACE.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2018