Meddygon teulu yn atgyfeirio wythdeg y cant o achosion posib o ganser ar 么l dau ymweliad
Nid ydym wedi cyfieithu'r datganiad gan ei fod gan gorff allanol ac ar gyfer y wasg Brydeinig
Dywedodd yr Athro Richard Neal o Ganolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, ac un o gyd-awduron yr astudiaeth,
"Un o brif ganfyddiadau'r ymchwil hwn yw'r angen parhaus i ganolbwyntio ar wneud diagnosis cyflym ac effeithlon o ganser, sef un o amcanion allweddol Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru. Yn benodol, mae angen inni ganolbwyntio ar ganserau 'anodd eu hamau'. Er enghraifft, yn yr astudiaeth hon, y ddau ganser sy'n cael eu gweld amlaf gan feddygon teulu cyn cael eu cyfeirio at arbenigwr (a gyda'r cyfnodau hiraf rhwng gweld meddyg teulu a chael eu cyfeirio) yw myeloma ymledol a chanser yr ysgyfaint. Bydd ein hymchwil at y dyfodol yma yng ngogledd Cymru yn canolbwyntio ar y ddau ganser hyn."
Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2013