Meddyliwch ddwywaith pwy ydych yn ei ddewis yn arweinydd: mae narsisiaid yn ddeniadol ar yr olwg gyntaf ond ychydig sy鈥檔 arweinwyr da yn y tymor hir
O ddigwyddiadau fel Cwpan Rygbi'r Byd i wleidyddiaeth bleidiol, mae hyfforddwyr, capteiniaid ac arweinwyr pleidiau'n cael eu pwyso a'u mesur drwy'r adeg.
Mae arweinyddiaeth yn agwedd bwysig ar fywyd bob dydd hefyd, ac rydym i gyd yn dewis arweinwyr, neu fan leiaf yn gweithio gydag arweinwyr. Er enghraifft, rydym yn gwybod pwy ydi 'bos' yn y gwaith, pwy ydi'r 'capten' mewn g锚m b锚l-droed ar b'nawn Sul, a phwy 'sy'n rheoli' adref.
Er ein bod yn aml yn dewis arweinwyr, naill ai'n ffurfiol neu'n anffurfiol, gan feddwl ein bod yn gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch pwy sydd fwyaf effeithiol, mae ymchwil newydd a wnaed gan Sefydliad Seicoleg Perfformiad El卯t (IPEP) yr yn The Journal of Personality, yn dangos ein bod yn fwy tebygol o ddewis arweinwyr sydd 芒 nodweddion narsisaidd amlwg. Prif nod pobl gyda nodweddion narsisaidd amlwg yw meithrin a hybu eu hunanddelwedd chwyddedig a gorhyderus; nod a gyflawnir ganddynt yn aml ar draul pobl eraill.
Mae ymchwil y t卯m yn awgrymu mai dim ond pan nad ydym yn eu hadnabod yn dda iawn rydym yn gweld pobl narsisaidd iawn fel arweinwyr effeithiol. Er enghraifft, efallai eich bod wedi dewis arweinydd narsisaidd yn yr ysgol, yn eich t卯m chwaraeon neu yn eich man gwaith heb lawer o wybodaeth amdano/amdani mewn gwirionedd, a nawr mae'n rhaid i chi weithio dan ei arweiniad/harweiniad. Efallai bod pethau wedi bod yn iawn yn y dechrau - ond beth sy'n digwydd dros amser?
Yr hyn mae'r ymchwil ddiweddaraf yn ei ddangos yw tra gall llawer ohonom 'syrthio mewn cariad yn syth' ag arweinwyr narsisaidd, dim am gyfnod 'mis m锚l' byr y mae'r syniadau cadarnhaol hyn yn para. Dros gyfnod, mae llong yr arweinydd narsisaidd yn graddol suddo. Do, fe wnaeth y swyn cychwynnol eich cyfareddu, ond fe welwch yn fuan nad oes llawer o sylwedd tu 么l i'r swyn hwnnw.
Fel hyn yr eglurodd Chin Wei Ong, un o'r ymchwilwyr: "Yn yr ymchwil, denwyd dilynwyr ar y dechrau gan garisma a gweledigaeth arweinwyr narsisiadd a'r ffactorau hyn oedd yn gyfrifol am ddyrchafiad narsisiaid fel arweinwyr yn y lle cyntaf. Mewn geiriau eraill, i ddechrau roedd yn well gan grwpiau o bobl y narsisiad yn hytrach nag eraill fel eu harweinydd. Fodd bynnag, dros amser gwelwyd effeithiolrwydd narsisiaid fel arweinwyr yn pylu wrth iddynt barhau i ganolbwyntio arnynt eu hunain ar draul eraill a methu, er enghraifft, ag annog eu dilynwyr i feddwl am broblemau mewn ffyrdd newydd neu roi cefnogaeth unigol i bob dilynwr.
Ydi hyn yn golygu bod arweinwyr narsisaidd bob amser yn sicr o fethu? Mae Dr Ross Roberts, un arall o'r ymchwilwyr, yn awgrymu nad oes unrhyw ddyfarniad pendant ar hyn hyd yma. "Mae narsisiaid yn garismataidd a dengar iawn ond nid ydynt yn rhoi digon o sylw i'w dilynwyr. Yr her i arweinwyr narsisaidd yw medru ffrwyno eu carisma a'i gyfuno 芒 ffactorau eraill, megis dangos cydymdeimlad, a ddylai eu galluogi i gael eu hystyried yn arweinwyr effeithiol dros amser. Efallai na fydd wahaniaeth gan narsisiaid eithafol beth mae eraill yn ei feddwl ohonynt a byddant yn sicr o fethu fel arweinwyr yn y pen draw. Ond mae yna fathau eraill ysgafnach o narsisiaeth a all fod yn fwy effeithiol." Mae'r ymchwilwyr yn awr yn gwneud astudiaethau yn y maes hwn i geisio deall pa ffactorau a all gynyddu effeithiolrwydd narsisiaid fel arweinwyr.
Er nad yw pob arweinydd yn narsisaidd ei dueddiadau, gall eu personoliaethau ddylanwadu pa mor effeithiol fyddant fel arweinwyr dros amser. Efallai bod hyn yn rhywbeth i'w ystyried y tro nesaf y gofynnir i chi ddewis arweinydd?
.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2015