Myfyriwr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi'i ddewis ar gyfer T卯m Rygbi'r Gynghrair Prifysgolion Cymru
Mae myfyriwr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi cael ei ddewis i chwarae i D卯m Rygbi'r Gynghrair Myfyrwyr Cymru ar gyfer Cystadleuaeth y Pedair Gwlad, a fydd yn cael ei chwarae ym Mhrifysgol Caeredin rhwng 22-30 Mehefin.
Mae鈥檙 cyn-fyfyriwr Ysgol Syr Thomas Jones a Choleg Reasheath, Dafydd Jones, 24, o Lanfechell, Ynys M么n, newydd gwblhau ei ail flwyddyn o鈥檙 Cwrs BSc Chwaraeon a Seicoleg Ymarfer.
Bydd Dafydd yn rhan o sgwad 20-dyn, gyda 12 ohonynt yn chwarae i glybiau Pencampwriaeth neu Gynghrair 1 a dau arall wedi gwneud ymddangosiadau yng Nghynghrair 1 yn y tymhorau blaenorol.
Dywedodd Dafydd: "Dwi wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis ar gyfer twrnamaint y Pedair Gwlad yng Nghaeredin eleni. Rwy鈥檔 gobeithio dangos fy sgiliau yr wyf wedi'u dysgu yn chwarae rygbi'r gynghrair yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gan mai hwn yw fy ail dymor o chwarae rygbi'r gynghrair, mae'r cyfan wedi dod braidd yn gyflym gyda chynrychioli Origin Gogledd Cymru, Dragonhearts Cymru, a chwarae i Halifax RLFC am y tro cyntaf yn y Gwpan 1895 yn ddiweddar.
"Dw i'n edrych ymlaen at chwarae i d卯m Myfyrwyr Cymru ac rwyf yn meddwl y gallwn ni ei wneud yn dwrnamaint arbennig i'n cenedl. Mae'r hyfforddwyr a'r sgwad wedi bod yn gweithio'n galed, gyda theimlad o gred yn y t卯m, gan obeithio felly, byddwn yn ffynnu yn ystod y naw diwrnod yr ydym ni cystadlu."
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2019