Myfyriwr PhD i fod yn Ymgynghorydd Technegol i Gemau Olympaidd Arbennig Prydain
Mae Niamh Reilly, sy鈥檔 astudio am PhD a gyllidir gan Mencap Cymru, wedi cael ei dewis yn Ymgynghorydd Technegol i Gemau Olympaidd Arbennig Prydain ar gyfer y Rhaglen Hyfforddi Gweithgaredd Motor (MATP). Mae鈥檙 rhaglen hon wedi鈥檌 chynllunio ar gyfer athletwyr sydd ag anabledd deallusol difrifol fel na allant gymryd rhan mewn cystadlaethau chwaraeon yn y Gemau Olympaidd Arbennig Swyddogol oherwydd eu hanableddau. Diben y Rhaglen Hyfforddi Gweithgaredd Motor yw paratoi athletwyr sydd ag anabledd deallusol difrifol, yn cynnwys athletwyr gydag anableddau corfforol sylweddol, i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon sy'n briodol i'w gallu.
Gwaith Niamh fydd llunio鈥檙 rhaglen MATP genedlaethol drwy gynhyrchu cynllun datblygu a strategaeth, yn ogystal 芒 darparu hyfforddiant cyson a gwybodaeth dechnegol, cynnal gweithdai MATP ledled Prydain, rhoi cefnogaeth i hyfforddwyr/athletwyr/gwirfoddolwyr, trefnu digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol MATP a bod yn aelod o banel o arbenigwyr sy鈥檔 gyfrifol am lunio鈥檙 Rhaglen Hyfforddi Gweithgaredd Motor i鈥檙 miloedd o athletwyr gydag anableddau deallusol difrifol sy鈥檔 cael eu hyfforddi drwy鈥檙 Gemau Olympaidd Arbennig ar draws gwledydd Prydain.
Llongyfarchiadau mawr i Niamh ar y gamp bwysig hon.
Cliciwch yma i weld proffil Niamh ar wefan Special Olympics GB:
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2012