Myfyriwr PhD Seicoleg yn dawnsio ei PhD mewn cystadleuaeth ryngwladol
Mae myfyriwr PhD Seicoleg ym Mrifysgol 香港六合彩挂牌资料, Kohinoor Darda, wedi cofrestru ar gyfer cystadleuaeth ryngwladol sy'n rhoi cyfle iddi egluro maes ymchwil ei PhD.
Dywedodd Kohinoor:
"Mae llawer o bobl wedi gofyn i mi dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf am beth mae fy PhD. Mae hi bob amser yn her esbonio fy PhD i bobl y tu allan i ddisgyblaeth niwrowyddoniaeth gymdeithasol / gwybyddol. Ond fe wnes i ddod o hyd i'r ffordd berffaith i osgoi jargon ac egluro'r hyn rydw i'n gweithio arno wrth bobl pan ddes i ar draws y gystadleuaeth "" a drefnir ar y cyd gan yr American Association for the Advancement of Science (AAAS) a chylchgrawn Science."
Mae'r gystadleuaeth yn herio gwyddonwyr ac ymchwilwyr i esbonio eu traethawd PhD trwy gyfrwng dawns deongliadol.
Dywedodd Kohinoor, sy'n ymddiddori mewn dawns yn ogystal 芒 gwyddoniaeth:
"Roeddwn i'n teimlo mai hwn oedd y llwyfan perffaith i mi ddod 芒'm dau ddiddordeb angerddol at ei gilydd. Fe wnes i fideo yn esbonio fy PhD 鈥淣eural Mechanisms of Imitation Control鈥 trwy gyfrwng Bharatnatyam, arddull ddawnsio clasurol Indiaidd.鈥 Mae Bharatnatyam yn arddull ddawns a nodweddir gan eirfa fanwl o iaith arwyddion yn seiliedig ar ystumiau corff a llaw, a mynegiant wyneb, a theimlai Kohinoor ei fod yn cynnig ei hun yn berffaith i esbonio ei thraethawd ymchwil PhD 鈥淣eural Mechanisms of Imitation Control鈥.
Wrth ddisgrifio ei PhD niwrowyddoniaeth yn gryno, dywedodd Kohinoor:
"Mewn rhyngweithiadau cymdeithasol o ddydd i ddydd, rydym i gyd yn dueddol o ddynwared ein gilydd, weithiau hyd yn oed heb fod yn ymwybodol o hynny. Gelwir y ffenomen hon yn ddynwared awtomatig. Mae fy PhD yn archwilio'r bensaern茂aeth niwrol gymhleth sy'n sylfaen i reoli ein tuedd i efelychu pobl eraill yn awtomatig."
Mae Kohinoor yn fyfyriwr rhyngwladol o Pune yn India a dewisodd astudio ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 oherwydd ansawdd yr ymchwil a wneir yn yr Ysgol Seicoleg a'r amgylchedd cyfeillgar a chydweithredol sydd yno. Mae hi'n credu bod lleoliad y Brifysgol, ar drothwy'r mynyddoedd a'r m么r, yn bendant yn atyniad ychwanegol.
Dyma unfed flwyddyn ar ddeg Cystadleuaeth Dawnsiwch eich PhD ac mae'r cyfnod cofrestru wedi cau. Dewisir cystadleuwyr i'r rownd derfynol gan enillwyr blaenorol a bydd panel o feirniaid arbenigol yn dewis yr enillydd. Cyhoeddir yr enillydd yng Nghyfarfod Blynyddol yr AAAS yn Washington DC ar 16 Chwefror.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2019