Myfyrwraig Seicoleg Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn ennill Gwobr Athletwraig Ifanc y Flwyddyn BBC Cymru 2017
"Just train hard"
— BBC Sport Wales (@BBCSportWales)
How has Catrin Jones had such a good year?
Watch live here:
Mae myfyrwraig Seicoleg sydd ar ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi ennill gwobr Athletwraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru.
Derbyniodd y codwr pwysau, Catrin Jones, 18, o Fangor ei gwobr ddiweddaraf mewn seremoni yng Nghasnewydd, ble roedd BBC Cymru a Chwaraeon Cymru yn dathlu llwyddiant timau ac unigolion y wlad dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Catrin wedi ennill nifer o gystadlaethau ac fe ddaeth yn bencampwraig Cymru yn 2017 ac fe enillodd hi fedal arian yn y Gemau Gymanwlad Ieuenctid yn Awstralia.
Wedi gwirioni 芒'i gwobr, dywedodd Catrin: "Mae'r gefnogaeth a gefais gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi bod yn anhygoel, ac rwy'n ddiolchgar iawn. Mae Ysgoloriaeth Chwaraeon y Brifysgol wedi bod o fudd aruthrol i mi, ac wedi caniat谩u imi ganolbwyntio ar fy astudiaethau a'm hyfforddiant hyd eithaf fy ngallu. Mae gennyf hefyd fynediad at hyfforddiant a chyfleusterau hyfforddi rhagorol yng Nghanolfan Brailsford."
Dywedodd Iona Williams, Rheolwr Datblygu Chwaraeon ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料: "Rydym yn hynod o falch o gyflawniadau Catrin, ac mae'n braf iawn ei gweld yn datblygu a dod yn athletwraig ddawnus. Mae'n wych bod ein rhaglen Ysgoloriaeth Chwaraeon yn parhau i helpu ein hyfforddeion el卯t gyfuno eu hastudiaethau academaidd a pherfformiad chwaraeon i gyflawni eu llawn botensial."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2017