Ni ddylai newid hinsawdd effeithio ar ddileu malaria i bob pwrpas
Mae economegwyr iechyd wedi cael peth newyddion da wrth wynebu newid hinsawdd. Mae astudiaeth i economeg iechyd yn ymwneud 芒 threchu malaria mewn gwledydd lle mae'r haint bron wedi'i ddileu yn dangos na fydd newid hinsawdd yn cael cymaint o effaith 芒 hynny ar y broses ac na ddylai atal sefydliadau iechyd rhag parhau i gryfhau eu dulliau dileu presennol.
Lluniodd yr ymchwilwyr Paul Parham a Dyfrig Hughes y papur ymchwil cyntaf ar economeg iechyd i gwestiynau effeithiau posibl newid hinsawdd ar gost-effeithiolrwydd ymladd afiechydon a gludir gan fosgitos mewn rhai gwledydd yn Affrica lle mae'r afiechyd bron 芒 chael ei ddileu ( 16.2.15). Darganfu eu dadansoddiad o ddulliau presennol o chwistrellu rhag yr afiechyd mewn tai, a defnyddio rhwydi mosgitos arbennig, y byddai effeithiau newid hinsawdd ar ddulliau presennol a ddefnyddir rhag mosgitos yn debygol o fod yn ddibwys iawn.
Meddai Dr Paul Parham, awdur a chyd-olygydd rhifyn arbennig o'r cyfnodolyn Philosophical Transactions of the Royal Society B, sy'n cynnwys y gwaith, a chyn aelod o Ganolfan Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ar Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau:
"O ystyried y sialensiau niferus y mae newid hinsawdd yn ei achosi i rai o wledydd tlotaf y byd, a'r sialensiau iechyd a wynebir eisoes gan wledydd y mae afiechydon a gludir gan fectorau yn effeithio arnynt ar hyn o bryd, roedd gennym ddiddordeb gweld a allai economeg iechyd gynnig peth arweiniad ar gyfer cynllunio at y dyfodol.
Mae'r papur hwn yn gam cyntaf i roi peth tystiolaeth i rai sydd 芒'r dasg o ddatblygu polis茂au iechyd mewn rhai gwledydd penodol er mwyn iddynt fedru cynllunio ar ei sail. Dylai ein canlyniadau o'r senarios a ystyriwyd roi hyder i wneuthurwyr polisi barhau 芒'r gwaith da sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd, gan fod ein modelau'n awgrymu y dylai defnyddio'r un camau gweithredu ar raddfa ehangach arwain at ddileu'r afiechyd."
Meddai'r Athro Dyfrig Hughes, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau:
"O ystyried bod malaria ac afiechydon eraill a gaiff eu cario gan fectorau yn achosi miliwn o farwolaethau'n barod, gyda miliwn pellach yn mynd yn wael oherwydd eu heffeithiau, mae'n hanfodol bod economegwyr iechyd yn darparu gwybodaeth fel y gall asiantaethau iechyd wybod sut oriau i ymateb i newidiadau mewn hinsawdd ac amgylchiadau.
Fe wnaethom edrych ar rai paramedrau gan ddod i'r casgliad na fyddai'r newid yn ddigonol i alw am symud oddi wrth ddulliau presennol o leihau cyswllt rhwng mosgitos a phobl er mwyn dileu'r salwch."
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2015