Niwrowyddoniaeth y Parthau Nwydus
Mae ein parthau nwydus ychydig yn od. Mae yna rannau penodol o鈥檔 cyrff, o鈥檜 cyffwrdd yn dyner, sy鈥檔 creu teimladau nwydus, er nad yw rhannau cyfagos o鈥檙 corff yn creu鈥檙 un teimladau. Er enghraifft, mae鈥檔 bosib y bydd merch yn mwynhau鈥檙 teimlad o gael ei mwytho ar ei gwddf neu鈥檌 chlust ond nid felly ar ei boch neu鈥檌 thalcen. Beth yw鈥檙 rheswm am hynny?
Dan arweiniad niwroseicolegydd o Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 (Yr Athro Oliver Turnbull), ac mewn cydweithrediad 芒 Phrifysgol y Witwatersrand, De Affrica, penderfynodd t卯m o ymchwilwyr roi prawf ar ddamcaniaeth a ddatblygwyd gan y niwrowyddonydd Vilayanur Ramachandran yn y 90au hwyr. Hanfod y ddamcaniaeth honno oedd bod ein parthau nwydus wedi鈥檜 lleoli yn nesaf at barthau ein horganau rhywiol ar un o nifer o 鈥榝apiau鈥 corff yn yr ymennydd. Awgrymai fod cyffwrdd un rhan yn 鈥榞ollwng鈥 ias i rannau cyfagos o鈥檙 map. Er enghraifft, cynigiai mai鈥檙 rheswm pam fod y traed yn cael eu hystyried yn barthau nwydus oedd eu lleoliad ar fap y prif gortecs corfforol-synhwyraidd (neu S1), sef yn nesaf at yr organau rhywiol. Hynny yw, roedd yr ias o gyffwrdd y traed yn 鈥榞ollwng鈥 ac yn achosi ias o deimladau nwydus.
Mewn cyfres o ymchwiliadau i brofi鈥檙 ddamcaniaeth (Turnbull OH, et al., Reports of intimate touch: Erogenous zones and somatosensory cortical organisation Cortex date of publication doi 1-.1016/j.cortex.2013.07.010), datgelwyd nifer o ystadegau diddorol yngl欧n 芒鈥檙 hyn y mae dynion a merched yn ei ganfod yn nwydus.
Cafodd y niwroseicolegwyr gryn syndod o ddeall nad oedd unrhyw un wedi cynnal ymchwil systematig i鈥檙 parthau nwydus o鈥檙 blaen, ond nid oedd canfyddiadau eu hymchwil yn cefnogi damcaniaeth Ramachandran mai鈥檙 S1 oedd yn gyfrifol am yr iasau nwydus. Mae鈥檔 ymddangos mai rhan o鈥檙 rheswm am hynny yw鈥檙 ffaith nad ydym yn ystyried y traed fel parthau nwydus a hefyd 鈥 yn ystadegol - dydy鈥檙 traed ddim yn clystyru gyda鈥檙 organau rhywiol. Ar ben hynny, dydy hi ddim yn ymddangos fod symbyliad uniongyrchol i鈥檙 S1 (mewn niwrolawdriniaeth) yn creu iasau nwydus.
Fel hyn y mae鈥檙 Athro Turnbull yn egluro鈥檙 canfyddiadau: 鈥淩wy鈥檔 credu fod yna ryw sail i鈥檙 ddamcaniaeth fod rhannau cyfagos o fap yr ymennydd yn 鈥榞ollwng鈥, ond mae sawl rhan o鈥檙 ymennydd yn gyfrifol am brosesu鈥檙 synnwyr o gyffyrddiad, ac mae鈥檔 bosib fod Ramachandran wedi dewis y rhan anghywir鈥. Mae鈥檙 Athro Turnbull yn credu yn hytrach mai rhan h欧n a mwy sylfaenol o鈥檙 ymennydd sydd fwyaf tebygol o fod yn gyfrifol am brosesu鈥檙 iasau hyn, sef yr insula. Mae鈥檙 rhan hwn o鈥檙 ymennydd wedi鈥檌 鈥榳eirio鈥 o adeg gynnar iawn yn ein datblygiad ac yn gyfrifol am emosiwn a derbyn y teimlad o gyffyrddiad araf.
Er mwyn sefydlu a oedd yna gysylltiadau rhwng S1 a鈥檙 parthau nwydus, gofynnwyd i bobl raddio 41 o rannau鈥檙 corff, ar y sail a oeddynt yn eu hystyried yn nwydus ai peidio. Datgelodd yr arolwg fod pob un ohonom yn weddol gyt没n ynghylch pa rannau o鈥檙 corff yr ydym yn eu canfod yn nwydus, a hynny er gwaethaf oed, hil, diwylliant, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Roedd llai o wahaniaeth rhwng dynion a merched hefyd nag y mae鈥檙 wasg a diwylliant poblogaidd yn ein harwain i gredu. Meddai鈥檙 Athro Turnbull: 鈥淔el bodau dynol, rydym yn weddol gyson a sefydlog o ran y prif barthau nwydus. Mae rhai gwahaniaethau cymharol fach rhwng dynion a merched, ond rwy鈥檔 credu bod y rhain wedi鈥檜 gorbwysleisio鈥.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2013