O ble y daw microbau sy鈥檔 ymwrthol i antibiotig?
Mae鈥檙 bygythiad cynyddol gan ficrobau sy鈥檔 ymwrthol i antibiotig mewn perygl o鈥檔 dychwelyd i 鈥榦esoedd tywyll meddyginiaeth鈥. Dyna a ddywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, wrth lansio ymchwiliad y llynedd.
Amcangyfrifir bod straeniau o facteria sy鈥檔 ymwrthol i gyffuriau yn gyfrifol am 5,000 o farwolaethau'r flwyddyn yn y DU a chymaint 芒 25,000 o farwolaethau yn Ewrop.
Mae un academydd o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn cyfrannu at y frwydr yn erbyn ymwrthedd antibiotig, ac yn ymchwilio ar sawl 鈥榝frynt鈥, gan gynnwys ceisio datblygu prawf cyflym ac effeithiol a fyddai鈥檔 canfod straeniau o facteria a oedd yn cario genynnau ymwrthol i antibiotig.
Mae Merfyn Williams a鈥檌 d卯m yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol yn ymchwilio i鈥檙 gwahaniaeth mewn DNA o fewn teuluoedd bacteria sydd yn rhoi鈥檙 gallu i rai ohonynt feddu ar ymwrthedd i antibiotig. Nid yw鈥檙 rhan fwyaf o facteria yn naturiol ymwrthol i antibiotig yn yr amgylchedd o鈥檔 cwmpas, ond yn hytrach mae rhai bacteria wedi mynd drwy newid esblygiadol yn eu DNA sydd yn rhoi鈥檙 gallu iddynt wrthsefyll antibiotig.
鈥淵 ffordd hawsaf o ddisgrifio鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd i rai bacteria sydd 芒 genynnau sy鈥檔 eu galluogi i feddu ar y potensial i wrthsefyll rhai mathau o antibiotig yw dweud fod ganddynt 鈥榮witsh鈥 sy鈥檔 cael ei droi ymlaen pan eu bod o dan straen neu鈥檔 dod i gysylltiad ag antibiotig. Dim ond Dim ond bryd hynny maent yn dangos ymwrthedd i antibiotig鈥, esbonia Merfyn Williams.
Mae鈥檙 microbau hynny sydd 芒鈥檙 gallu i droi鈥檔 ymwrthol i antibiotig o鈥檔 cwmpas yn yr amgylchedd a thu mewn i ni, weithiau fel rhan o fflora ein perfeddion - ac, ar y cyfan, yn gwbl ddiniwed i ni pan ein bod yn iach. Yr hyn sy鈥檔 sbarduno eu hymwrthedd i antibiotig yw dod i gysylltiad 芒鈥檙 antibiotig ei hun.
Felly鈥檙 hyn sydd ei angen yw prawf syml, cyflym a chost effeithiol a ellir ei ddefnyddio gan wyddonwyr biofeddygol i ganfod bacteria sydd 芒鈥檙 potensial i wrthsefyll antibiotig. Os yw鈥檙 bacteria o鈥檙 fath yn cael eu canfod mewn claf sydd angen triniaeth, yna byddai鈥檔 ddoethach peidio 芒 thrin y claf hwnnw ag antibiotig a all ddethol straeniau ymwrthol, ond yn hytrach ddewis grwpiau antibiotig eraill.
Mae Merfyn Williams a鈥檌 d卯m yn ceisio datblygu prawf o鈥檙 fath:
鈥淗yd yma rydym wedi gallu datgelu cludiant gwahanol enynnau sy鈥檔 amgodio ar gyfer ymwrthedd bacteria mewn bacteria E.coli a cholifform o鈥檙 amgylchedd ac o unigion clinigol. Rydym hefyd wedi datgelu rhai straeniau sy鈥檔 cludo genynnau ymwrthol ond nad ydynt yn mynegi ymwrthedd i antibiotig yn y labordy, ac amcan un o鈥檔 hastudiaethau presennol yw ceisio peri ymwrthedd i anfiotig yn y straeniau hynny i鈥檔 galluogi i astudio鈥檙 broses a sut y mae鈥檔 digwydd. Mae鈥檙 astudiaethau hyn yn cymryd amser ac rydym yn gobeithio y gwelwn gynnydd dros y ddwy flynedd nesaf. 鈥
Mae Merfyn hefyd yn ymchwilio i sut y mae ymwrthedd i antibiotig a newidiadau geneteg y tu mewn i鈥檙 microbau hyn yn amrywio o fewn poblogaethau o鈥檙 un microb. Mae ei d卯m hefyd yn gweithio ar astudiaeth epidemioleg, yn canfod a chymharu gwahaniaethau rhwng geneteg ac ymwrthedd i antibiotig o fewn yr un teulu microbau o facteria a geir yng Ngogledd Orllewin Cymru o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 rheiny a geir yn y Gogledd Ddwyrain.
Mae Merfyn Williams yn Gyfarwyddwr Gwyddorau Biofeddygol y Brifysgol a hefyd yn Uwch Wyddonydd Biofeddygol i Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2015