O lawr y siop i uchelfannau ymchwil 芒 phlant
Bu mynd i鈥檙 brifysgol wastad yn freuddwyd gan Claire Hodgkinson ond, ar 么l cwblhau ei arholiadau Lefel A dros ugain mlynedd yn 么l, ni allai weld llwybr gyrfa yn ffurfio o鈥檌 blaen, felly, yn hytrach na dewis maes pwnc ar fympwy i鈥檞 ddilyn am dair blynedd, penderfynodd ymuno 芒 rhaglen rheoli yn y sector m芒n-werthu.
Profodd lwyddiannau a dyrchafiadau a chyn iddi wybod, roedd yng Ngogledd Cymru, yn Ddirprwy Reolwr ar siopau yn Llandudno ac, yn y man, ym Mangor. Gan ei bod yng nghyffiniau Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 o ddydd i ddydd, canfu Claire ei bod yn meddwl am addysg uwch unwaith eto a, phan ddechreuodd yr ieuengaf o鈥檌 thri phlentyn fynychu鈥檙 ysgol yn llawn amser, penderfynodd wneud cais i鈥檙 Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol ym Mangor ac fe鈥檌 derbyniwyd ar y rhaglen BA mewn Astudiaethau Plentyndod.
Roedd bod yn rhiant sengl i dri o blant o dan ddeg yn golygu bod rheoli amser yn dod yn ffactor hollbwysig ym mywyd Claire fel myfyriwr:
鈥淩oedd gofyn i mi wneud y gorau o bob cyfle i ddysgu. Roedd y staff ar y cwrs yn wirioneddol wych yn fy nghefnogi gyda fy llwyth gwaith 鈥 roedden nhw am i鈥檞 myfyrwyr lwyddo ac roeddent mor gefnogol ohona i,鈥 meddai.
Ar gyfer ei thraethawd hir ym mlwyddyn olaf ei gradd, gweithiodd Claire ar raglen ymchwil Lleisiau Bach/Little Voices, sef rhaglen sy鈥檔 caniat谩u i blant i gynnal eu prosiectau ymchwil eu hunain a chyflwyno sgiliau iddynt megis dulliau ymchwil, gwerthuso a dadansoddi a chyflwyno canfyddiadau terfynol, a hynny oll o fewn cyd-destun eu hysgol, eu cymuned a鈥檜 cyfoedion, gan ganiat谩u iddynt sicrhau newid yn eu cymuned ar gyfer pethau sy'n bwysig iddynt. Wrth fyfyrio ar ei gwaith gyda鈥檙 project, dywedodd Claire:
"Nod y traethawd oedd gwerthuso methodoleg Lleisiau Bach, rhywbeth cwbl newydd yn achos y project. Roedd yn gyfle i ni gael safbwynt y plant am y profiad o fod yn rhan o broject ymchwil dan eu harweiniad hwy eu hunain, ac roedden ni鈥檔 gwybod o ganlyniad i鈥檔 darllen o amgylch y maes yn flaenorol nad oes llawer o dystiolaeth yn gysylltiedig 芒 hyn ar hyn o bryd.
"Dewisodd y plant gael stondin ffrwythau yn yr ysgol. Mi ddaru nhw osod holiaduron ar-lein ar gyfer casglu barn rhieni a chynnal holiadur rhyngweithiol gyda phob plentyn yn yr ysgol cyn dadansoddi鈥檙 canlyniadau a chyflwyno eu canfyddiadau mewn gwasanaeth gerbron yr ysgol gyfan. Llwyddon nhw i ennill cefnogaeth y pennaeth ac maen nhw bellach wedi cael profiad llwyddiannus ar eu diwrnod mabolgampau ym mis Gorffennaf. Bydd y stondin yn cael ei chyflwyno鈥檔 llawn ym mis Medi.
"Roedd yn wych gweithio ar broject sydd 芒 gwerth go-iawn ac rydym ni wedi cael cyfle ers hynny i gyflwyno ein hymchwil yn nyddiau hyfforddi Lleisiau Bach i gynrychiolwyr o Ganolfan Gyfreithiol y Plant, Comisiynydd Plant Cymru ac aelodau o鈥檙 sector addysg. Mae mor gyffrous meddwl y gallai fy ymchwil i fod yn ddefnydd a bod lle o hyd i mi ei ddatblygu ymhellach er bod fy ngradd wedi gorffen.
鈥淢ae ennill fy ngradd yn sicr wedi bod yn her ond rydw i wedi cael llawer iawn o gefnogaeth gan y brifysgol ac rwy鈥檔 gallu dweud yn onest fy mod i wedi mwynhau pob munud o fod yma!"
Mae Claire yn graddio yr wythnos hon gyda BA mewn Astudiaethau Plentyndod ac mae鈥檔 gobeithio parhau 芒鈥檌 hymchwil ar lefelau Meistr a PhD.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2019