Pencampwr Codi Pwysau’r Gymanwlad yn ennill Gwobr Goffa Llew Rees
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi dyfarnu ei gwobr chwaraeon uchaf flynyddol, Gwobr Goffa Llew Rees, i Godwr Pwysau a gynrychiolodd Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad.
Dyfarnwyd y wobr i Catrin Jones, 18, o Fangor gan ei bod wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i godi proffil chwaraeon Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ drwy ei llwyddiant personol ar lefel ryngwladol.
Mae Catrin, sy'n fyfyrwraig yn ei blwyddyn gyntaf mewn cwrs gradd Seicoleg, wedi dychwelyd yn ddiweddar o Gemau'r Gymanwlad yn y Gold Coast, Awstralia fel rhan o Dîm Cymru.
Enillodd Catrin Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, ac mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai rhyfeddol i Catrin gan iddi ennill llu o fedalau a theitlau. Yn 2015, enillodd wobr aur yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Samoa ac yn 2016 teithiodd i Wlad Pwyl i gystadlu ym Mhencampwriaethau Ieuenctid Ewrop, lle enillodd y wobr arian yn y gystadleuaeth 'Snatch' a'r drydedd wobr yn gyffredinol.
Mae’r cystadlu wedi mynd â hi i Malaysia ar gyfer Pencampwriaethau Ieuenctid y Byd, lle daeth yn wythfed, ac i Awstralia ym mis Medi 2017, lle bu’n cystadlu ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau'r Gymanwlad gan ddod yn ail yn y Gystadleuaeth Iau.
Mae Catrin wedi creu argraff ar y lefel hÅ·n hefyd wrth iddi symud i fyny dosbarth pwysau ac ennill Pencampwriaethau HÅ·n Cymru yn 2017 ac fe ddaeth yn drydydd ym Mhencampwriaethau Prydain, gan golli yr ail safle o ddim ond 1kg. Yn ogystal, enillodd Catrin wobr Athletwraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2017.
Mae Catrin wedi cael dechrau da yn 2018 gan ennill Pencampwriaethau Hŷn Cymru, ac yna ei dewis i gystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn y Gold Coast ym mis Ebrill, lle bu iddi ragori ar yr hyn a ddisgwylid ganddi, drwy dorri tair record Gymreig, sef y 'Snatch', y 'Clean & Jerk’ a'r cyfanswm a godwyd - record y gwnaeth Catrin ei thorri o 10kg.
Roedd Catrin wrth ei bodd yn derbyn y wobr ac meddai: "Roedd yn nod tymor hir gennyf i gael fy newis ar gyfer Gemau'r Gymanwlad. Roedd yn gyfle unwaith mewn oes i gynrychioli Cymru a Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Dwi'n hynod o ddiolchgar i'r Brifysgol am fy nghefnogi dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd gwobr Llew Rees yn parhau i fy helpu gyda'r gost o gystadlu'n rhyngwladol."
Mae Catrin, y bencampwraig Gymreig gyfredol a deiliad recordiau Prydeinig a Chymreig amrywiol, yn parhau i ymarfer 5 diwrnod yr wythnos gyda'i llygaid ar le yn Nhîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo 2020.
Straeon Perthnasol:
Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn Llongyfarch athletwyr Gemau’r Gymanwlad
Presenoldeb cryf gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yng Ngemau'r Gymanwlad 2018
Myfyrwraig Seicoleg Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn ennill Gwobr Athletwraig Ifanc y Flwyddyn BBC Cymru 2017
Medal arian i fyfyrwraig o Gymru
Athletwraig o Fangor yn derbyn gwobr Codwr Pwysau Ifanc Prydeinig y Flwyddyn
Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn disgleirio ar lwyfan y byd codi pwysau
Llwyddiannau i Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Cymru
Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i athletwyr elitaidd Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Codi tua’r entrychion! Catrin yn llwyddo ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop
Safle gwych ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ieuenctid y Byd i Catrin
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2018