PhD Gwyddor Chwaraeon a ariannwyd gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr yn ennill gwobr gan Gymdeithas Seicolegol Prydain am y PhD orau yn y DU
Mae project PhD gan Leonie Webster wedi cael y wobr am y Traethawd PhD Gorau yn 2019 gan Gymdeithas Seicolegol Prydain. Hefyd, mae ei hymchwil arloesol eisoes wedi cael dylanwad uniongyrchol ar hyfforddi hyfforddwyr proffesiynol yn y DU a'i wella.
Mae'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer wedi meithrin perthynas effeithiol iawn gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ers dros ddegawd. Mae'r Bwrdd Criced wedi'i leoli yn Loughborough ond pan fyddant eisiau cymorth gyda datblygu talent a materion yn ymwneud 芒 seicoleg, maent yn gofyn i Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 am gymorth.
Er enghraifft, cyn Cwpan Criced y Byd 2019, bu t卯m o ymchwilwyr o'r Ysgol Gwyddorau, Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn helpu i wella paratoadau meddyliol t卯m h欧n Lloegr trwy ganolbwyntio ar yr unigolyn. Arweiniodd hyn at eu buddugoliaeth llawn tensiwn yn y twrnamaint (o ganlyniad i'w llwyddiant ysgubol) diolch i Ben Stokes.
Wrth gwrs, mae mwy i griced na chwaraewyr unigol sy'n gallu batio'n dda. Mae'n chwaraeon t卯m, ond tan yn ddiweddar nid oeddem yn gwybod llawer am y ffactorau t卯m pwysicaf i sicrhau llwyddiant i dimau criced.
Yn ffodus i Leonie Webster roedd hyn yn golygu bod y Bwrdd Criced wedi ariannu PhD yn edrych ar ffactorau t卯m sy'n berthnasol mewn criced proffesiynol, dan oruchwyliaeth y tad a'r mab, Dr James Hardy a'r Athro Lew Hardy. Yn ystod ei chyfnod fel ymchwilydd PhD, gwnaeth Leonie waith cymhwysol hefyd gyda thimau datblygu cenedlaethol merched. Yn sgil hyn cafod ei dewis gan yr RFU i arwain cefnogaeth seicoleg i'r t卯m cenedlaethol h欧n.
Er bod ei hymchwil yn gofyn am gasglu data unigryw oddi wrth yr holl dimau criced sirol dynion a merched, gan ddefnyddio nodweddion technegol fel dulliau allsymud a dadansoddi adnabod patrymau, roedd yn hanfodol bod y canfyddiadau gwyddonol yn cael eu bwydo yn 么l i'r Bwrdd Criced mewn ffordd a oedd yn ystyrlon i hyfforddwyr.
Dywedodd Cyfarwyddwr Astudiaethau 脭l-radd yr ysgol, Dr Ross Roberts:
鈥淢ae'r ysgol yn falch iawn o hwyluso gwobr o fri ac mae'n helpu i adlewyrchu ansawdd yr ymchwil a'r hyfforddiant ymchwil a gwblhaodd Leonie yn ystod ei PhD. Roedd y ffaith bod y PhD wedi'i ariannu'n allanol gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr yn golygu bod y rhaglen ymchwil yn canolbwyntio ar angen penodol. Felly roedd PhD Leonie yn gwneud ymchwil pwysig yn y byd go iawn i bontio'r bwlch rhwng theori ac ymarfer i ateb cwestiwn penodol yn ymwneud 芒 pherfformiad yr oedd y Bwrdd Criced yn wirioneddol eisiau ei ddeall. Nid yw'n syndod mawr bod yr agwedd hon at ymchwil wedi arwain at draethawd PhD Leonie yn cael ei ystyried fel y gorau yn y DU gan Gymdeithas Seicolegol Prydain."
Mae Leonie wedi parhau gyda'i gyrfa academaidd ac ar hyn o bryd mae'n gweithio fel Cymrawd Ymchwil 脭l-ddoethurol ym Mhrifysgol Southampton yn ymchwilio i waith t卯m yn y fyddin.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2020