Pobl h欧n yn helpu tyfu economi Cymru
Mae mwy a mwy o bobl dros eu 65 oed yn byw ac yn gweithio yng Nghymru heddiw, ac mae eu cyfraniad at economi Cymru鈥檔 tyfu.
Dyna mae economegwyr iechyd Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn ei ddweud yn eu hadroddiad heddiw (30 Gorffennaf 2018).
Fel yr esboniodd awdur arweiniol yr adroddiad, yr Athro Rhiannon Tudor Edwards:
"Yn yr adroddiad hwn, buom yn archwilio鈥檙 achos economaidd dros fuddsoddi mewn pobl h欧n fel asedau, drwy werthuso'r dystiolaeth economaidd sydd ar gael gan gynnwys ymyriadau, polis茂au ac arferion sy'n berthnasol i Gymru. Ein nod yw ategu鈥檙 dystiolaeth a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal (NICE), Sefydliad Gofal Cymdeithasol dros Ragoriaeth (SCIE), Cynghrair Henoed Cymru a Chynghrair Pobl H欧n Cymru (COPA). Cofiwch, ar 么l ystyried y costau sydd i boblogaeth sy'n heneiddio, yn enwedig costau iechyd a gofal cymdeithasol, mae pobl h欧n yn gwneud cyfraniad net o bron i 拢6 miliwn y diwrnod i economi Cymru".
Mae gan Gymru gyfeiriad polisi arwyddocaol eisoes lle mae buddsoddi mewn pobl h欧n yn y cwestiwn ac mae canllawiau ar waith i helpu pobl atal y problemau hynny sy鈥檔 dod gyda henaint trwy gadw pwysau iach, bwyta'n iach, cadw'n ffit, yfed llai o alcohol a rhoi鈥檙 gorau i ysmygu.
Mae'r adroddiad yma鈥檔 tynnu sylw at dystiolaeth y gallai buddsoddi mewn rhaglenni i helpu gydag unigrwydd a gwarchod rhag cael codwm neu gwympo arbed arian yn y pen draw ac mae'n cyd-fynd 芒 chynllun newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Cymru Iachach'.
Dywedodd y Dr Llinos Haf Spencer, Swyddog Ymchwil CHEME
"O leihau'r risg o syrthio, a bod llai o bobl yn mynd i鈥檙 ysbyty o鈥檙 herwydd, mi allai Llywodraeth Cymru arbed arian ar adnoddau'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a chadw pobl h欧n allan o gartrefi gofal preswyl. Mae lle i gredu bod cwympo a brifo鈥檔 costio mwy na 拢2 biliwn i鈥檙 gwasanaeth iechyd yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Byddai dulliau ataliol megis ffisiotherapi鈥檔 gallu arbed 9 mil o bobl h欧n rhag cwympo bob blwyddyn a byddai hynny鈥檔 arbed tua 拢16 miliwn y flwyddyn i鈥檙 Gwasanaeth Iechyd".
Dywedodd Bethany Anthony, un o awduron yr adroddiad:
"Mae pobl h欧n yn gwneud cyfraniad sylweddol yng Nghymru fel gwirfoddolwyr, sy鈥檔 werth 拢483 miliwn y flwyddyn i economi Cymru, a disgwylir i hyn dyfu i 拢705 miliwn y flwyddyn erbyn 2020. Mae mwy na hanner y bobl h欧n (a thros ddwy ran o dair o鈥檙 oedolion h欧n 55-64 oed) yn dweud eu bod yn gwneud rhywfaint o wirfoddoli anffurfiol, gan gynnwys gweithgareddau megis cadw mewn cysylltiad 芒 rhywun sy'n gaeth i'r t欧 a darparu cludiant. Mae un o bob tri o bobl h欧n yn dweud eu bod yn gwirfoddoli'n ffurfiol gyda sefydliadau a grwpiau ffurfiol, gan gynnwys gwirfoddoli ar gyfer gweithgareddau ar gyfer plant yn yr ysgol a thu hwnt, chwaraeon ac ymarfer corff, iechyd a gofal cymdeithasol, grwpiau cymunedol, grwpiau ffydd, a gweithio mewn siopau elusennau.鈥
Daeth yr awduron i'r casgliad bod galluogi pobl i weithio鈥檔 hirach, hwyluso gwirfoddoli a helpu rhieni sy'n gweithio trwy ofalu am wyrion yn fanteisiol iawn yn economaidd o ran gwella lles; lleihau unigrwydd, a chefnogi gwasanaethau cymunedol ffurfiol ac ehangach. Mae cyd-gynhyrchu鈥檔 galluogi pobl h欧n i aros yn weithgar yn y gymuned, ac mae manteision deublyg rhwng y cenedlaethau yn y gwasanaethau cymunedol a鈥檙 sector cyhoeddus.
Mae llawer o bobl h欧n yn ofalwyr anffurfiol. Mae costau darparu gofal i ofalwyr h欧n sydd angen cymorth cymdeithasol, meddygol a seicolegol. Gall gofalwyr, gan gynnwys y rhai sy鈥檔 gofalu am bobl 芒 dementia, fod yn ffactor allweddol o ran cadw rhywun yn ei gartref yn lle mynd i鈥檙 ysbyty neu ofal preswyl. Mae yna achos economaidd dros roi blaenoriaeth i helpu gofalwyr h欧n yng Nghymru oherwydd mae mwy o ofalwyr h欧n di-d芒l yng Nghymru nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2018