Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal Gweithdy Niwroddelweddu mewn Dementia
Wrth i bobl fyw'n hirach mae'r achosion o ddementia'n cynyddu ac mae hon yn broblem sylweddol iawn. Mae tua 12,000 o bobl yn dioddef o ddementia yng Ngogledd Cymru'n unig a bydd y nifer yn cynyddu gyda phoblogaeth sy'n heneiddio.
Fodd bynnag, mae'n bosibl bod y niferoedd yn llawer uwch na hyn mewn gwirionedd, gan fod diagnosis yn aml yn dibynnu ar amrywiol dechnegau meddygol a llawer o brofion. Mae canllawiau presennol NICE yn argymell defnyddio technegau niwroddelweddu, megis tomograffeg gyfrifiadurol - sganiau CT, delweddu cyseiniant magnetig - MRI neu hyd yn oed tomograffeg gollwng positronau - sganiau PET, wrth ddiagnosio dementia.
Cyfyngir ar effaith y technegau hyn yn aml gan ddiffyg gwybodaeth a hyfforddiant ar dechnegau niwroddelweddu a'r hyn y gallant ei gyflawni. Nod ymchwilwyr ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, mewn cydweithrediad â Trinity College Dublin ac University College Dublin, yw helpu yn hyn o beth. Trwy raglen gwerth €1.2 miliwn, a gyllidir yn rhannol gan y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd drwy Raglen Iwerddon-Cymru 2007-13, mae'r tair Prifysgol yn datblygu a chyflwyno rhaglenni hyfforddi gyda'r nod o helaethu gwybodaeth yn eu hardaloedd lleol ar ddefnyddio niwroddelweddu mewn dementia, ar gyfer ymchwil a diagnosis. Gobeithir y bydd y rhaglenni hyfforddi hyn yn helaethu a dyfnhau sgiliau lleol. Yn ogystal gobeithir y bydd y rhaglen yn rhoi hwb i ymchwil ym maes dementia yn y tair prifysgol, drwy hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.
Fel rhan o'r rhaglen NeuroSKILL, bydd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal gweithdy mewn Niwroddelweddu mewn dementia ddydd Gwener 5 Gorffennaf a dydd Sadwrn 6 Gorffennaf. Yn y gweithdy deuddydd hwn, a drefnir gan Dr Paul Mullins o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, ceir cyfres o sgyrsiau ar niwroddelweddu a bydd yn cynnwys sesiwn ymarferol yn cynnwys sganiwr 3T MRI yr Ysgol Seicoleg a labordai cyfrifiadurol.
Mae’r math yma o hyfforddiant yn unigryw yng ngogledd Cymru a bydd y rhai fydd yno'n dysgu am y broses drwyddi draw, o gasglu delweddau i ddadansoddi terfynol. Yn y pen draw, wrth i niwroddelweddu ddod yn bwysicach i ganfod dementia, gobeithir y bydd rhaglenni hyfforddi o'r natur hon o fudd uniongyrchol i gleifion drwy gynyddu gwybodaeth leol.
Meddai Dr Paul Mullins, Cyfarwyddwr Uned Ddelweddu Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, "Bydd y gweithdy yma'n gyfle gwych i glinigwyr ac ymchwilwyr lleol sy'n gweithio ym maes dementia i ddysgu am y gwahanol fathau o ddelweddu sydd ar gael a'r hyn y gallant ei ddweud wrthym am ddementia. Bydd agweddau theoretig ac ymarferol y cwrs yn rhoi gwell syniad i'r rhai fydd yn bresennol am yr hyn mae niwroddelweddu'n ei olygu yn ei gyfanrwydd, a'u galluogi'n well i gloriannu'r wybodaeth a gynhyrchir, ym maes ymchwil ac ymarfer clinigol."
Mae project NeuroSKILL yn broject ar y cyd rhwng Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, University College Dublin a Trinity College Dublin. Cyllidir y project yn rhannol gan y Gronfa Datblygu Rhanbarthau Ewropeaidd trwy Raglen Cymru-Iwerddon 2007-13. Tîm NeuroSKILL Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yw: Dr Paul Mullins, Yr Athro Linda Clare, Dr Catherine Quinn, Ms Karolina Russiak a Dr Nia Goulden.
Ewch i'r wefan i gael mwy o wybodaeth am y gweithdy: www.neuroskill.eu
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mehefin 2013