Prynu nwyddau gofal iechyd mewn modd moesegol
Cyfrannodd yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd at y drwy gynnal seminar a arweiniwyd gan Lucy Bryning sy鈥檔 ymchwilydd yng (CHEME) a Jude Field sy鈥檔 ddarlithydd mewn bydwreigiaeth ac yn aelod o Gr诺p Llywio Masnach Deg y brifysgol. Roedd y seminar yn canolbwyntio ar ystyriaethau moesegol cynhyrchu a chaffael deunyddiau meddygol, megis offer llawfeddygol, tecstiliau a menig archwilio ar gyfer y GIG.
Esboniodd Lucy Bryning:
"Fe wnaethon ni ddefnyddio ymgyrch Masnach Feddygol Deg Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) fel fframwaith ar gyfer y seminar, yn cynnwys ffilm fer yr ymgyrch 'The Cost of Healthcare'. Dechreuwyd yr ymgyrch yn 2007 gan y llawfeddyg Dr Mahmood Bhutta ar 么l i ymweliad 芒 Phacistan dynnu ei sylw at yr amgylchiadau ecsbloetiol yr oedd cynhyrchwyr offer llawfeddygol ar gyfer y GIG yn ei brofi - gan gynnwys amodau anniogel, cyflogau isel iawn, a llafur plant."
Ychwanegodd Jude Field:
"Cynsail ganolog ymgyrch y BMA ydy 'Mae'n ymddangos yn baradocsaidd darparu gofal iechyd yn defnyddio nwyddau a gwasanaethau a allai mewn gwirionedd niweidio iechyd oherwydd eu bod yn methu ag amddiffyn hawliau llafur sylfaenol' - roedd hwn yn sentiment yr oedd y bobl yn y seminar yn cytuno ag o."
Yn y seminar hefyd cafwyd trafodaeth yngl欧n 芒 sut y mae鈥檙 GIG, yn rhannol o ganlyniad i ymgyrch y BMA, wedi dechrau cymryd camau i wella amodau gwaith cynhyrchwyr nifer o gynhyrchion ar gyfer y GIG. Mae hynny'n cynnwys creu 'Cod Ymddygiad i Gyflenwyr' a鈥檌 ar waith yn 2009 a 'System Sicrwydd Safonau Llafur' archwiliadwy yn 2012. Dangoswyd bod y camau hyn wedi gwella amodau gwaith gweithwyr sy'n cynhyrchu offer llawfeddygol ym Mhacistan, ac yn raddol maent yn cael eu cyflwyno ar gyfer eitemau risg uchel eraill y mae angen eu caffael. Cafwyd llwyddiant yn lleol hefyd drwy gaffael gwisgoedd GIG Cymru mewn modd moesegol.
Prif bwrpas y seminar oedd codi ymwybyddiaeth am yr achos hwn ac annog rhagor o welliant o ran yr amodau gwaith anfoesegol sydd wedi eu cofnodi. Roedd gan y mynychwyr ddiddordeb mewn archwilio sut y gallai ein hysgol ni gyflwyno egwyddorion masnachu moesegol wrth gaffael gwisgoedd staff a myfyrwyr ac offer sgiliau clinigol, a sut y gellid codi ymwybyddiaeth am y mater hwn ymhlith myfyrwyr sy'n gwneud eu hyfforddiant cyn-gofrestru, a'r potensial sydd ar gyfer ystyried gwerthuso cynhyrchion gofal iechyd er mwyn ystyried beth yw gwir gostau eu defnyddio.
I gael gwybodaeth yngl欧n ag ymgyrch 'Masnach Feddygol Deg' Cymdeithas Feddygol Prydain, ewch i:
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2017