Recognise & Respond; Safer Care & Detecting Deterioration
Ar 20 Medi 2017 cynhaliodd Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 gynhadledd ryngweithiol ar gyfer nyrsys plant o bob rhan o Ogledd Cymru a Lloegr.
Noddwyd y gynhadledd gan Laerdal Medical a'i threfnu ar y cyd rhwng yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ar gampws Wrecsam, Ysbyty Plant Brenhinol Manceinion, Ysbyty Plant Alder Hey a Gwasanaeth Trafnidiaeth Pediatreg Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru (NWTS.)
Dywed Natalie Robinson (trefnydd y gynhadledd) mai amcan y gynhadledd oedd dod 芒 nyrsys plant at ei gilydd o bob rhan o Ogledd Cymru (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) ac arbenigwyr clinigol o Ganolfannau Plant Rhanbarthol i rannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth am arferion cyfredol ar gyfer datgelu pan fo plant yn s芒l iawn ac atal dirywiad.
Arweiniwyd cyfres o sgyrsiau gan arbenigwyr clinigol gan yr Athro Debbie Roberts, Cadair y Sefydliad Astudiaethau Nyrsio mewn Dysgu Ymarferol ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Ymysg y siaradwyr oedd Gerri Sefton, Ymarferydd Nyrsio Uwch yn Alder Hey, a siaradodd am asesu a rheoli dirywiad.
Rhoddodd Lindsay Kenworthy, Prif Nyrs ac Addysgwr Clinigol yn Alder Hey, arddangosiad gan ddefnyddio efelychydd plentyn (manicin) yn ystod ei sgwrs ar asesiad clinigol.
Siaradodd Andrea McArthur ac Angela Lee, Ymarferwyr Datblygiad Addysgol yn Uned Pediadrig a Gofal Critigol Ysbyty Plant Brenhinol Manceinion am sefydlogi plant sydd 芒 madredd (sepsis).
Cyflwynodd yr Arbenigwyr Nyrsio Clinigol Nicola Longden a Kathryn Claydon-Smith o NWTS gyflwyniad diddorol ar Ddwys芒d ac Asesiad Amser Critigol.
Y siaradwyr olaf oedd Dr Sharmila Gopisetti, Ymgynghorydd yn Ysbyty Plant Brenhinol Manceinion ac Arweinydd Addysgol a Denise Bennet, Rheolwr Ward ac Arweinydd Gwella Ansawdd, Gofal Critigol Pediadrig a siaradodd am ddefnyddio senarios efelychu clinigol mewn hyfforddiant parhaus.
Arweiniwyd sesiynau'r prynhawn gan Dr Lynne Williams, Dirprwy Bennaeth Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mangor ac roedd yn cynnwys chwe gweithdy efelychu rhyngweithiol.
Cafodd y gweithdai efelychu i gyd eu gwerthuso'n hynod o gadarnhaol gan bawb oedd yn bresennol yn y gynhadledd. Roedd y diwrnod hefyd yn gyfle i'r ugain myfyriwr nyrsio plant newydd oedd yn dechrau ar gampws Wrecsam i ymuno yn y dysgu rhyngweithiol yn sesiwn y prynhawn.
Adroddodd Alison Owen Traynor (Arweinydd Rhaglen Nyrsio Plant) bod y myfyrwyr newydd wedi mynegi eu bod wedi'u cymell gan y gynhadledd ac yn frwdfrydig wrth ddechrau ar eu rhaglen radd dair blynedd i fod yn nyrsys plant.
Dywedodd y myfyrwyr blwyddyn gyntaf;
"Dydych chi ddim yn teimlo ar wah芒n i bawb arall erbyn hyn, rydych yn teimlo'n rhan ohoni"
"Roedd yr efelychwyr yn anhygoel, roeddynt yn anadlu ac yn gwneud synau. Mae mor dda fod ganddynt bethau fel hyn ar gyfer hyfforddiant"
"Mae'n galonogol oherwydd rydym yn gwybod ein bod yn gallu ymarfer, gallwn fwrw iddi a pheidio 芒 phoeni am wneud camgymeriad. Gallwch wir ddysgu."
Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi lansio nifer o raglenni 么l-radd a datblygiad proffesiynol parhaus newydd yn ddiweddar a chyda'i henw rhagorol am ymchwil ynghyd 芒'r ffaith bod graddau Nyrsio ym Mangor ar gyfer cyrsiau ar gampysau 香港六合彩挂牌资料 a Wrecsam yn dal i ddenu Cyllid Bwrsariaeth y GIG mae'n edrych ymlaen at barhau i gyflwyno cyrsiau a chynadleddau o ansawdd uchel yn seiliedig ar ymchwil dros y flwyddyn academaidd i ddod.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2017