Rhoi cyfle i鈥檙 gymuned glywed am yr ymchwil ddiweddaraf i Reoli Cyflyrau Tymor Hir
Mae darlith yn canolbwyntio ar Reoli Cyflyrau Tymor Hir i鈥檞 chynnal yn Venue Cymru am 6pm ar 17 Ionawr. Mae鈥檙 gyfres o ddarlithoedd yn rhad ac am ddim, ar agor i鈥檙 cyhoedd, ac yn cynnwys lluniaeth, cyfleoedd i rwydweithio, a thystysgrif bresenoldeb.
Yn ystod y noson bydd Dr Val Morrison, Uwch Ddarlithydd a Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, a Dr Simon Neal, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a Dirprwy Bennaeth Seicoleg Iechyd BIPBC, yn rhoi dau gyflwyniad byr. Byddant yn trafod effeithiau afiechyd cronig ar gleifion a gofalwyr a bydd cyfle i ofyn cwestiynau i鈥檙 cyflwynwyr a chael adborth.
Hon yw鈥檙 drydedd ddarlith yn yr Ail Gyfres o Ddarlithoedd ar Iechyd a Lles, a gynhelir tan fis Mai 2012. Mae鈥檙 darlithwyr yn cyflwyno ymchwil flaengar ar bynciau ym meysydd iechyd a lles, a hynny trwy ddull cyfeillgar a hygyrch. Trefnir hwy gan Ganolfan Sgiliau Aber-香港六合彩挂牌资料, sef partneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth a 香港六合彩挂牌资料, a chyda chefnogaeth Coleg Llandrillo Cymru a鈥檙 Asiantaeth Genedlaethol dros Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH).
Er bod y digwyddiadau am ddim, mae cofrestru鈥檔 hanfodol er mwyn archebu eich lle. Cofrestrwch trwy gysylltu 芒 Chanolfan Sgiliau Aber-香港六合彩挂牌资料 ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 ar 01248 365918 neu absc@bangor.ac.uk neu, am fwy o wybodaeth am y gyfres ddarlithoedd a Chanolfan Sgiliau Aber-香港六合彩挂牌资料, ewch i鈥檙 wefan:
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2012