Rwy'n si诺r na hoffech i'r stori hon fod amdanoch chi: twyllo mewn chwaraeon
Beth sy'n gyrru chwaraewyr a mabolgampwyr proffesiynol i dorri rheolau eu camp gan obeithio na ch芒nt eu dal - ac yn y gobaith y daw 芒 gogoniant iddyn nhw ac i'w t卯m?
Math o gymeriad yw craidd y mater, yn 么l ymchwilwyr yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit (IPEP) Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Wrth ymchwilio i'w broject trydedd flwyddyn yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol, roedd yn syndod i Ben Jones ddysgu cyn lleied o ymchwil sydd wedi cael ei gyhoeddi ar nodweddion cymeriad a sut maent yn dylanwadu ar agweddau ac ymddygiadau pobl mewn amgylchedd chwaraeon t卯m. Yn benodol, roedd ganddo ddiddordeb mewn sut mae pobl 芒 nodweddion cymeriad narsisaidd yn ymddwyn mewn timau.
Mae Ben bellach yn astudio at PhD ac mae ffrwyth ei waith israddedig newydd gael ei gyhoeddi mewn papur academaidd a gyd-ysgrifennodd ag academyddion yn yr Ysgol (Jones, B.D., Woodman, T., Barlow, M., & Roberts, R. (yn y wasg). The darker side of personality: Narcissism predicts moral disengagement and anti-social behaviour. The Sport Psychologist.).
Cadarnhaodd yr ymchwil fod pobl 芒 nodweddion cymeriad narsisaidd yn ymwahanu o foesoldeb ac yn dueddol o ymddwyn mewn ffyrdd sy'n groes i ysbryd y g锚m mewn chwaraeon t卯m, sy'n debygol o beryglu llwyddiant y t卯m.
Esbonia Ben: "Mae narsiswyr yn unigolion hynod o uchelgeisiol ac mae ganddynt ddisgwyliadau anarferol o uchel o'u hunain. Gellid ystyried bod y rhain yn nodweddion hanfodol i gyrraedd a pherfformio ar lefel uchaf chwaraeon. Serch hynny, y cyfuniad o ddiffyg empathi ag eraill a hunan-obsesiwn sy'n rhoi awch iddynt sy'n aml yn golygu y byddant yn barod i beryglu torri'r rheolau er mwyn cyflawni eu nodau eu hunain, o flaen anghenion y t卯m, am fod ennill yn golygu cymaint iddynt. Ymddengys eu bod yn argyhoeddi eu hunain nad yw safonau moesol yn berthnasol iddyn nhw a'u bod yn gallu cyfiawnhau gweithredoedd sydd y tu hwnt i ymddygiad derbyniol, oherwydd bydd y gweithredoedd hynny, pa mor bynnag annerbyniol, yn eu cynorthwyo i gyflawni eu nod hollbwysig personol o ymddangos yn ogoneddus yn llygaid eraill."
Pa mor niweidiol yw narsiswyr mewn chwaraeon t卯m?
Ychwanegodd Ben: "Weithiau bydd pobl 芒 thueddiadau narsisaidd yn gallu osgoi cael eu cosbi am y math yma o ymddygiad mewn timoedd. Er enghraifft, bydd llawer yn cofio Maradona a'r g么l 'Llaw Duw' drwg-enwog yn ystod Cwpan y Byd sawl blwyddyn yn 么l.
"Nid ydym yn awgrymu bod Maradona yn narsisydd, ond gallech ddweud bod hyn yn enghraifft o weithred anghymdeithasol oedd o fudd i'r t卯m, felly pam peidio 芒'i annog? Wel, ar adegau eraill, mae ymddygiad o'r fath wedi costio'n ddrud i dimoedd. 30 mlynedd yn ddiweddarach, yn ystod yr un bencampwriaeth, gwelodd y byd weithred wrthgymdeithasol ddigynsail pan ymddangosai i Luis Suarez, oedd yn chwarae i Uruguay, gnoi'r Eidalwr Giorgio Chiellini. Aeth y weithred heb ei chosbi yn ystod y g锚m, ond mewn adolwg gwaharddwyd Suarez am weddill y bencampwriaeth, a chred llawer bod hynny wedi tanseilio cyfle Uruguay yng Nghwpan y Byd. Felly mae'n amlwg bod canlyniadau gwahanol yn gallu deillio o weithredoedd dadleuol a gwrthgymdeithasol fel hyn, ac mae datblygiadau mewn technoleg yn golygu nad oes bellach le i guddio mewn achosion o'r fath."
Sut allwn ni newid ymddygiadau pobl?
Esbonia'r Athro Tim Woodman, un arall o gyd awduron yr erthygl:
鈥淢ae'n amlwg yn anodd iawn newid personoliaeth pobl mewn ffordd sylfaenol - ac yn ddiamau mae angen penderfyniad a hunangred ar fabolgampwyr llwyddiannus er mwyn perfformio ar lefelau mor uchel. Yr her yn awr, ar 么l sefydlu'r ffeithiau, yw dyfeisio strategaethau ar gyfer hyfforddwyr timoedd i annog ymddygiad cadarnhaol gan aelodau t卯m sydd o bosib 芒'r nodwedd cymeriad hon. Un syniad sydd gennym yw canolbwyntio ar rannu cyfrifoldeb ar draws timoedd cyfan. Byddai rhannu r么l capteiniaeth y t卯m, er enghraifft, yn annog chwaraewyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu gweithredoedd a buasent yn gosod esiampl i'w cyd-chwaraewyr ei ddilyn. Byddai arfer o'r fath yn pwysleisio鈥檙 angen i unigolion gymryd cyfrifoldeb dros eu gweithredoedd a sut y gallant gyfrannu at les y t卯m; rydym eisoes yn gwybod o ymchwil flaenorol i chwaraeon nad yw narsiswyr yn gwneud yr arweinwyr gorau dros gyfnod estynedig, felly rhannu'r ddyletswydd arwain honno sydd fwy na thebyg orau.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2016