Sefydlu Gr诺p Seneddol Trawsbleidiol i astudio manteision dod ag ymwybyddiaeth ofalgar i bolisi cyhoeddus
Ddydd Mercher, 7 Mai, bydd Ruby Wax yn ymuno ag arbenigwyr a seneddwyr i lansio gr诺p seneddol trawsbleidiol ar ymwybyddiaeth ofalgar yn Nh欧'r Cyffredin.
Yn dilyn tystiolaeth wyddonol gynyddol ar fuddioldeb defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar i liniaru iselder a straen a gwella lles cyffredinol, bydd y gr诺p yn cynnal ymchwiliad naw mis i swyddogaeth bosibl ymwybyddiaeth ofalgar mewn meysydd o bolisi cyhoeddus megis iechyd, addysg a chyfiawnder troseddol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae cyfres o gyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar wedi cael eu cynnal yn y Senedd ac mae dros 70 o seneddwyr a staff wedi cofrestru arnynt. Cyd-gadeiryddion y gr诺p yw Chris Ruane AS (Llafur), Tracey Crouch AS (Ceidwadwr) a Lorely Burt AS (Democrat Rhyddfrydol).
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ffordd o ddatblygu gallu i ganolbwyntio mewn ffordd bwrpasol ac anfeirniadol sy'n hoelio sylw ar y foment dan sylw. Mae'r ymarfer wedi ei seilio i raddau ar draddodiadau myfyrio hynafol ond mae wedi'i ddatblygu'n rhaglen hyfforddi wyth sesiwn ar gyfer cyd-destunau seciwlar cyfoes.
Mae cyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar yn awr yn cael eu cynnig gan y GIG mewn llawer rhan o'r wlad fel triniaeth i ystod o anhwylderau iechyd meddwl yn dilyn ei argymell gan y National Institute for Clinical Excellence. Mae astudiaethau gwyddonol diweddar wedi dangos gostyngiad o 50% yn y risg i rai sy'n dioddef oddi wrth iselder gael ail bwl o'r salwch ar 么l iddynt wneud ymwybyddiaeth ofalgar.
Meddai Mark Williams, Prif Gymrawd Ymchwil Wellcome ym Mhrifysgol Rhydychen ac Athro Seicoleg Glinigol: "Mae sefydlu'r gr诺p seneddol hwn yn ddatblygiad rydym yn ei groesawu鈥檔 fawr wrth i ni weithio i ddod 芒 manteision ymwybyddiaeth ofalgar i filiynau o bobl. Bydd y gr诺p yn pwysleisio datblygu polisi wedi'i seilio ar dystiolaeth mewn meysydd allweddol, gan ddechrau gydag iechyd, addysg a chyfiawnder troseddol. Mae cydweithwyr yn Rhydychen, 香港六合彩挂牌资料 a Chaerwysg wedi bod yn astudio fel seicolegwyr clinigol ym mha feysydd y mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael y manteision mwyaf a pham y mae'n cael yr effeithiau y mae'n eu cael yn y meysydd hynny. Y cam cyntaf bob amser yw edrych ar beth sy'n gweithio ond y cam nesaf hanfodol wedyn yw gweithredu ar ganlyniadau'r darganfyddiadau gwyddonol fel y gall pawb fanteisio. Bydd y gr诺p seneddol yn helpu polisi cyhoeddus i gadw ar y blaen gyda gwyddoniaeth."
Cefnogir y Gr诺p Seneddol ar Ymwybyddiaeth Ofalgar gan y Cynllun Ymwybyddiaeth Ofalgar, sef cynghrair o Brifysgolion Rhydychen, Caerwysg a 香港六合彩挂牌资料 i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o ymwybyddiaeth ofalgar fel ymyriad cymharol rad a'i botensial mewn ystod o wasanaethau cyhoeddus.
Meddai Willem Kuyken, Athro Seicoleg Glinigol ym Mhrifysgol Caerwysg: "Mae'r gr诺p seneddol hwn yn gyfrwng i ystyried y dystiolaeth yn ofalus, yn ogystal ag ystyried sut orau i gynnal dilysrwydd ymwybyddiaeth ofalgar a'r traddodiadau myfyriol y mae wedi'i seilio arnynt. Bydd yn edrych hefyd sut orau i rannu dulliau gweithredu wedi'u seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar wrth i'r galw gynyddu."
Ychwanegodd Rebecca Crane, Cyfarwyddwr, Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, Ysgol Seicoleg, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, "Mae diddordeb cynyddol mewn cymhwyso hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar at ystod o sefyllfaoedd, yn cynnwys y gwasanaeth iechyd, addysg, y lluoedd arfog a'r system gyfiawnder. Mae Prifysgolion 香港六合彩挂牌资料, Caerwysg a Rhydychen wedi arwain gydag ymchwil, dysgu a hyfforddi yn y maes hwn. Mae'r gr诺p seneddol yn cynnig cyfle cyffrous i ddod 芒 llunwyr polisi, academyddion ac ymarferwyr at ei gilydd i ystyried sut y gall y dystiolaeth dros ymwybyddiaeth ofalgar arwain a goleuo polisi."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2014