Straeon rhyngweithiol Food Dudes i helpu plant bach i fod yn egniol drwy gydol eu hoes
Mae ymchwil y diweddar Athro Fergus Lowe a鈥檙 Athro Pauline Horne ar newid ymddygiad wedi arwain at ddatblygiad Sustem Newid Ymddygiad Food Dudes llwyddiannus iawn er mwyn gwella iechyd a lles plant, ac sydd wedi eu mabwysiadu mewn sawl gwlad. Mae鈥檙 rhaglenni hyn sydd wedi ennill gwobrau, yn defnyddio egwyddorion ymddygiad pwysig, sef efelychu, gwobrwyo a blasu sawl gwaith i helpu plant rhwng 2-11 oed i fwynhau bwyta ffrwythau a llysiau a newid y bwydydd y byddant yn eu dewis am weddill eu bywydau. Mae鈥檙 Sustem wedi eu treialu yn rhyngwladol ac yn 2012, arweiniodd eu llwyddiant at greu cwmni menter gymdeithasol; Food Dudes Health.
Ond dim ond un agwedd ar gynnal ffordd o fyw iach yw bwyta鈥檔 iach; mae鈥檔 rhaid hefyd mynd i鈥檙 afael 芒 lefel isel gweithgarwch corfforol plant er mwyn cael ffordd fwy effeithiol fyth o osgoi gordewdra ymysg plant. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgan bod dros chwarter y plant pump oed yng Nghymru dros eu pwysau neu鈥檔 ordew. Gallai ymyrryd cynnar er mwyn sefydlu ymddygiad iechyd da bod yn fodd grymus o atal canlyniadau gordewdra, fel cynnydd yn y risg o glefyd y galon, clefyd siwgr a chanserau.
Mae seicolegwyr ym Mangor bellach yn defnyddio'r egwyddorion dysgu sydd yn sail i Sustem Newid Ymddygiad Food Dudes i ehangu ar y rhaglenni sydd ar gael i annog plant i fod yn fwy egn茂ol.
Mae Catherine Sharp, myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Seicoleg a fu鈥檔 gweithio ar ddatblygu鈥檙 rhaglen bwyta鈥檔 iach Food Dudes ar gyfer meithrinfeydd, yn ymestyn yr ymchwil i hybu lefelau gweithgarwch plant rhwng 2-4 oed. Mae鈥檔 datblygu鈥檙 rhaglenni yng Nghanolfan Gofal Dydd ac Ymchwil Tir Na n-Og y brifysgol.
Bydd un rhan o鈥檙 rhaglen yn cynnwys pedair stori antur weledol a chlywedol ryngweithiol a fydd yn annog y plant i ymuno yng ngweithgareddau cymeriad Food Dudes a chanu caneuon symudol gyda鈥檙 stor茂wr/wraig. Gosodwyd y straeon a鈥檙 caneuon i gerddoriaeth gan gydweithwyr yn yr Ysgol Cerddoriaeth.
Bydd gweithgarwch corfforol y plant yn cael ei fonitro drwy iddynt wisgo mesurydd ar ddiwrnod stori.
Mae Catherine yn esbonio: 鈥淩ydym yn creu鈥檙 straeon fideo rhyngweithiol ar hyn o bryd ac yn bwriadu eu dangos i鈥檙 plant am y tro cyntaf fis nesaf. Wedi treulio oriau gyda鈥檙 plant yn y feithrinfa, rydw i鈥檔 si诺r y byddant yn wir fwynhau鈥檙 stor茂au. Hoffwn ddiolch i bawb sydd yn helpu ac yn cefnogi datblygiad y rhaglen hon y mae mawr angen amdani i gynyddu lefelau gweithgarwch plant oed meithrin.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2015