Sut fydd ymwneud â robotiaid yn effeithio arnom ni?
Yn y dyfodol agos bydd robotiaid ac afatarau'n dod yn gynyddol fwy cyffredin - byddwn yn ymwneud â hwy mewn mannau gwaith, mannau cyhoeddus ac yn ein cartrefi, yn ogystal ag ym meysydd addysg, iechyd a gofal. Mae technolegwyr wedi bod yn gweithio'n galed i ddatblygu peiriannau defnyddiol i gyflawni tasgau cymhleth megis codi cleifion o welyau mewn ysbytai, bod yn gwmni i bobl gydag iselder neu ddementia, neu hyd yn oed ddysgu algebra i blant. Ond a ydym ni'n gwybod a all ymwneud dros gyfnod hir â robotiaid fel hyn gael unrhyw effaith arnom ni?
Mae Dr Emily Cross, niwrowyddonydd cymdeithasol o Ysgol Seicoleg flaenllaw Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, wedi derbyn grant sylweddol o bron £1.5 M (€1.809,000) gan Gyngor Ymchwil Ewropeaidd i ymchwilio i'r maes hwn nad oes fawr waith wedi ei wneud ynddo hyd yma. Teitl y project yw: ‘Social Robots: Mechanisms and Consequences of Attributing Socialness to Artificial Agents’.
Eglurodd: "Mae llawer o ymchwil wedi ei gwneud i ddatblygu robotiaid fel eu bod yn gallu ymwneud yn fwy cymdeithasol â phobl. Wrth i'r dechnoleg hon ddatblygu, rydym yn mynd i weld defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial ym myd pobl yn ystod y degawdau nesaf.
"Mae peth ymchwil yn awgrymu ein bod yn hapus i ymwneud â robotiaid am tua 10 awr ac ar ôl hynny ein bod yn dechrau colli diddordeb. Mae gen i ddiddordeb mewn gweld sut mae ein dirnadaeth o robotiaid yn newid ar draws y 10 awr yma, ac a fydd yn bosibl ymestyn y cyfnod hwn. Bydd hynny'n bwysig os byddwn yn ymwneud â robotiaid yn aml neu am gyfnodau hir."
"Rydym yn gwybod bod bodau dynol yn anifeiliaid cymdeithasol iawn, a hefyd bod yr ymennydd dynol yn hynod hyblyg gyda phob mathau o brofiadau'n effeithio arno. Un o'r prif gwestiynau y byddaf yn edrych arnynt yw sut mae gweithgaredd yr ymennydd yn newid pan ydym yn ymwneud â robotiaid cymdeithasol dros gyfnod estynedig o amser, a'r graddau yr ydym yn defnyddio mecanweithiau niwrowybyddol, sydd wedi datblygu i gynnal ymwneud cymdeithasol â phobl eraill, pan fyddwn yn ymwneud â robotiaid. Mae gennyf hefyd ddiddordeb yn y ffordd mae oed a chefndir diwylliannol yn dylanwadu ar ddatblygu perthynas gymdeithasol â robotiaid."
Yn ei hymchwil bydd Emily'n astudio gwahanol grwpiau oedran (o blant ifanc i oedolion hÅ·n), a bydd yn edrych hefyd ar effaith gwahaniaethau diwylliannol ar yr ymwneud rhwng pobl a robotiaid. Gwnaiff hyn drwy gynnwys pobl o Ogledd Cymru a Tokyo, Japan, lle mae teclynnau cymhleth a robotiaid cymdeithasol eisoes yn dod yn gyffredin.
Bydd y grant, a roddir i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, ac sy'n para pum mlynedd, hefyd yn galluogi Dr Cross i adeiladu ei thîm ymchwil ei hun yn y Labordy Ymennydd Cymdeithasol ar Waith (www.soba-lab.com), yn ogystal â datblygu ei maes ymchwil rhyfeddol.
Rhoddir Grantiau Cychwynnol ERC i ymchwilwyr sydd â record wyddonol ragorol ac sy'n dangos addewid arbennig.
Meddai Carlos Moedas, Comisiynydd Ewropeaidd dros Ymchwil, Gwyddoniaeth ac Arloesi, am y grantiau a ddyfernir:
"Mae angen i ni gadw ein hymchwilwyr mwyaf dawnus yn Ewrop a'r un pryd ddenu safbwyntiau newydd ac amrywiol y prif ymchwilwyr o rannau eraill o'r byd. Mae'r grantiau hyn yn sicrhau bod llawer o syniadau mwyaf cyffrous y byd yn cael eu datblygu yma, gan roi rhyddid i ymchwilwyr a gwyddonwyr ddilyn eu gyrfaoedd a'u huchelgais ar ein cyfandir."
Mae hon yn un o 48 o grantiau a ddyfarnwyd ar draws y gwyddorau ffisegol, gwyddorau bywyd a gwyddorau cymdeithas ym Mhrydain, a'r unig grant i'w rhoi i wyddonydd o Brydain yn y maes ymchwil 'Yr Ymennydd Dynol a'i Gymhlethdod'.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2016