Sut ydyn ni'n paratoi cricedwyr ar gyfer pwysau perfformio ar y cae?
Ym mis Gorffennaf 2019 enillodd t卯m criced dynion Lloegr Gwpan y Byd, a dydd Sul 25 Awst 2019 arweiniodd Ben Stokes y t卯m i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Awstralia yn 3edd G锚m Prawf y Lludw.
Mae rhaglenni hyfforddi unigol arloesol yn helpu Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) i baratoi eu chwaraewyr i wynebu'r pwysau o berfformio ar y cae, ac roeddent yn ffactor allweddol yn llwyddiant diweddar cwpan y byd t卯m dynion Lloegr.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi bod yn gweithio gyda'r ECB i baratoi pob cricedwr gwrywaidd a benywaidd yn gorfforol ac yn feddyliol i sicrhau bod pob un ar ei orau wrth wynebu'r pwysau o berfformio p'un ai ar lefel sir neu ryngwladol.
Mae'r rhaglen hyfforddi a ddatblygwyd rhwng Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol a'r ECB wedi arwain at greu technegau a chyfundrefnau hyfforddi unigol i bob chwaraewr. Mae pob ymyrraeth yn seiliedig ar nodweddion chwaraewyr a nodwyd gan ddefnyddio technegau'n cynnwys cyfweliadau gan hyfforddwyr, proffilio seicolegol, a phrofion gwybyddol a seicoffisiolegol. Yna dadansoddir y data gan d卯m o chwe arbenigwr perfformiad elitaidd o'r Brifysgol, sydd wedyn yn creu technegau a chyfundrefnau hyfforddi unigol ar gyfer pob chwaraewr.
Treialwyd y rhaglen hon yn llwyddiannus yn 2016. Yn dilyn y treial llwyddiannus, cyflwynwyd y project i'r siroedd ac mae bellach wedi'i ehangu i gynnwys y timau dynion a merched h欧n.
Mae'r dull cydweithredol i gael dealltwriaeth wyddonol yn cael ei ddisgrifio'n allweddol i lwyddiant y rhaglen. Mae'r hyfforddwyr ar lawr gwlad yn cyfrannu profiad ymarferol a gwybodaeth bersonol am chwaraewyr tra bod yr ymchwilwyr yn defnyddio eu dealltwriaeth academaidd o berfformiad i ddarparu dull mwy gwyddonol o gynllunio hyfforddiant.
Fel yr eglura Dr Ross Roberts, un o aelodau'r t卯m:
鈥淢ae'r syniad y gallai dulliau cwbl unigol o hyfforddi pwysau ddarparu'r buddion perfformiad mwyaf yn rhywbeth y soniwyd amdano ym maes seicoleg perfformiad ers blynyddoedd lawer. Fodd bynnag, mae'n her gymhleth ac anodd ei chyflawni a dyna pam nad oes yr un t卯m ymchwil na Chorff Llywodraethu Cenedlaethol wedi ceisio gwneud hyn o'r blaen. Felly, mae'r project cyfredol yn wirioneddol ar y blaen o ran meddwl yn y maes hwn. Mae ei newydd-deb yn deillio o'r dulliau cynhwysfawr a ddefnyddir i ddeall yr hyn a allai fod yn digwydd gyda phob chwaraewr a'r dull cydweithredol a ddefnyddiwn wrth weithio gyda'r ECB; gan mai'r hyfforddwyr sy'n cyflwyno'r ymyrraeth mewn gwirionedd, rydym ni'n syml yn eu paratoi ac yn rhoi awgrymiadau iddyn nhw am wahanol ffyrdd i helpu'r chwaraewyr."
Mae'r t卯m ymchwil yn rhan o Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elitaidd yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Mae'r Ysgol hon yn gartref i'r crynhoad mwyaf o ymchwilwyr i berfformiad chwaraeon elitaidd yn y byd. Mae'r t卯m yn cynnwys academyddion sy'n dod 芒 set amrywiol o sgiliau pwnc sy'n helpu i greu darlun mwy cyflawn o ddatblygiad athletwyr gan gynnwys safbwyntiau seicolegol, dysgu sgiliau echddygol a seicoffisiolegol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2019