Swyddog Cefnogi Project Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Gwahoddir ceisiadau am y swydd ran-amser (拢11.03 yr awr) dros dro (3 mis) uchod yn yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio 芒 Dr Eleri Si芒n Jones ar broject a gyllidir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef astudiaeth ddilysu draws ddiwylliannol o holiadur Pryder Ynghylch Perfformio.
Mae disgwyl i ymgeiswyr fod 芒 gradd anrhydedd dda (Cyntaf neu 2.1) mewn gwyddor chwaraeon, seicoleg neu ddisgyblaeth gysylltiedig (neu ar fin gorffen eu gradd). Mae'n hanfodol bod ganddynt brofiad hefyd o wneud ymchwil mewn seicoleg, yn cynnwys cynnal holiaduron yn y maes, casglu data a mewnbynnu data. Gan fod hwn yn broject dwyieithog, mae'n hanfodol bod ymgeiswyr yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg.
Ar ben hynny, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos bod ganddo/ganddi sgiliau cyfathrebu da yn Gymraeg a Saesneg, y gallu i weithio鈥檔 gywir ac i roi sylw i fanylion, a鈥檙 gallu i weithio鈥檔 effeithiol o fewn t卯m ymchwil. Rhaid i ymgeiswyr fedru trin cyfrifiaduron a gallu defnyddio pecynnau ystadegol a Microsoft Office, a meddu ar drwydded yrru lawn. Mae parodrwydd i deithio rhwng lleoliadau ymchwil yng Nghymru yn un o ofynion hanfodol y swydd.
Disgwylir i鈥檙 ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar 30 Mehefin am gyfnod penodol tan 30 Medi. Mae'n bosibl y gellid rhannu'r swydd hon yn ddwy swydd rannu, un yng Ngogledd Cymru a'r llall yn Ne Cymru.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2015