Sylw brenhinol i waith ymchwil Ephraim
Dangosodd Meghan, Duges Sussex, diddordeb neilltuol yng ngwaith myfyriwr Meistr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, Dr Ephraim Kisangala, sydd yn fyfyriwr Ysgoloriaeth y Gymanwlad o Uganda, pan gyfarfu鈥檙 ddau mewn derbyniad yn Llundain yn ddiweddar.
Ac yntau鈥檔 feddyg teulu yn Uganda, derbyniodd Ephraim, sy鈥檔 astudio Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, wahoddiad i gyfarfod 芒鈥檙 Ddugess ar achlysur cyhoeddi Ddugess yn noddwr Brenhinol yr Association of Commonwealth Universities.
Meddai Ephraim:
鈥淐efais wahoddiad i鈥檙 digwyddiad ac ystyriais os y dyliwn fynd ai peidio. Dim ond deuddydd cyn y digwyddiad y deallais fod y Dduges am fod yno. Roeddwn tamaid yn nerfus o flaen llaw, ond roedd trafod fy ngwaith efo Cadeirydd y Gymdeithas wedi lleddfu fy nerfau. Cefais fy nghyflwyno i鈥檙 Dduges ac fe holodd fi am fy ymchwil. Roedd hi鈥檔 fy nharo fi fel person darostynedig ac roedd hi鈥檔 gwenu ac yn sylwgar. Daeth yn 么l ataf nes ymlaen am sgwrs ddyfnach am y problemau sy鈥檔 effeithio merched ar eu mislif mewn gwersylloedd ffoaduriaid yn Uganda.
Dywedodd Ephraim fod y Dduges yn ymwybodol iawn o faterion Affricanaidd ac am y problemau sy鈥檔 wynebu meched ar eu misflif yn India.
鈥淒ywedodd y Dduges cymaint oedd y mater yn ei brawychu a sut yr oedd mor bwysig codi ymwybyddiaeth o鈥檙 materion hyn fel y gellir gwneud mwy yn eu cylch.鈥
Gan esbonio pwnc ei draethawd hir, disgrifiodd Ephraim sut y mae鈥檙 nifer fwyaf o ffoaduriaid yn Affrica wedi eu lleoli yn Uganda a sut y mae mislif yn fater iechyd cuddiedig i ferched yno.
Mae ei draethawd hir wedi deillio o鈥檌 ddiddordeb ym maes y mislif a materion iechyd merched yn Uganda.
Wrth rhoi sylw ar ei brofiad addysgol yn y Brifysgol, meddai: 鈥淢ae鈥檙 dysgu a鈥檙 cwricwlwm yn hyblyg iawn. Mae hyn yn fy ngalluogi i ddewis pynciau sydd yn ymwneud 芒 phroblemau gofal iechyd yn Uganda. Mae hyn yn sicrhau bod yr hyn yr wyf yn dysgu yn berthnasol pan yr wyf yn dychwelyd i鈥檙 wlad.鈥
Meddai Dr Jaci Huws, goruchwiliwr traethawd hir Ephraim ac uwch-ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhygwladoli Ysgol Gofal Iechyd y Brifysgol:
鈥淢ae Ephraim wedi dangos brwdfrydedd ddros ddysgu am raglenni iechyd cynaliadwy ac mae鈥檔 angerddol dros iechyd a lles pobl sydd wedi eu dadleoli, yn enwedig rhai sy鈥檔 byw mewn llefydd diarffordd ac anghysbell y byd. Rydym yn ofnadwy o falch o鈥檌 lwyddiannau.鈥
Mae鈥檙 ymweliad wedi dod 芒 llawer o sylw yn y cyfryngau i waith Ephraim, ac mae wedi derbyn negeseuon gan gyfeillion a chydweithwyr o amgylch y byd wedi gweld y sylw ar y cyfryngau.
Ychwanegodd:
鈥淩oedd y Ddugess yn angerddol dros ein gwaith ac roedd yn amlwg ei bod 芒 chons媒rn diffuant dros y merched rydym yn ceisio鈥檜 helpu.鈥
Yn dilyn bod yn feddyg teulu am ddwy flynedd, roedd Ephraim wedi penderfynu fod yr amser yn iawn i ddatblygu ei brofiad ac i ymestyn ei addysg.
Chwaraeodd Ephraim ran yn yr ymgyrch fyd-eang gyntaf ar reoli glanweithdra mislif yn 2014 tra鈥檔 fyfyriwr meddygaeth. Mae o a chriw o bobl brofesiynol ifanc yn cyfrannu o鈥檜 hincwm misol i ariannu ymweliadau i ardaloedd gwledig sydd heb fynediad at ofal iechyd er mwyn darparu gofal i鈥檙 bobl hynny yn yr ardaloedd mwyaf anghysbell drwy law corff lleol o鈥檙 enw Nyalojjie Integrated Foundation (NIF).
Enwebwyd Dr Kisangala am ysgoloriaeth gan Windle Trust International, elusen sy鈥檔 hybu addysg ymlith ffoaduriaid a phobl sydd wedi eu heffeithio gan ryfela.
Dyma erthyglau am waith Ephraim:
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2019