Tair Seren Bocs Sebon o Fangor
Mae tair o ferched sy'n astudio gwyddoniaeth ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn cymryd rhan yn nigwyddiadau eleni.
Mae Dr Erin Heerey o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn un o 12 o wyddonwyr rhagorol sydd hefyd yn ferched a ddewiswyd i gyflwyno gwyddoniaeth yn uniongyrchol i'r cyhoedd mewn digwyddiad yn Llundain. Ar 29 Mehefin, bydd Southbank Llundain yn cael ei thrawsnewid yn fan dysgu cyhoeddus a dadlau gwyddonol yn nigwyddiad Soapbox Science, a drefnwyd gan Gymdeithas S诺olegol Llundain (ZSL) a L鈥橭r茅al-UNESCO ar gyfer Merched mewn Gwyddoniaeth. Bydd Dr Heerey yn ymuno 芒 rhai o ferched mwyaf blaenllaw byd gwyddoniaeth yn y Deyrnas Unedig i ddod 芒 gwyddoniaeth allan o'r labordy ac i'r strydoedd.
Mae Dr Erin Heerey, uwch ddarlithydd yn enwog y brifysgol yn rhannu "Chwe chyfrinach ymddygiad cymdeithasol" gyda'r cyhoedd, ar 么l iddi wneud argraff fawr ar y beirniaid gan ddangos iddynt pam y byddai hi, o blith merched y DU ym myd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, yn un dda am gyflwyno ei dull hi o ymdrin 芒 gwyddoniaeth i'r cyhoedd.
Mae Soapbox Science yn mentro y tu allan i Lundain am y tro cyntaf eleni ac mae dwy ferch arall o faes seicoleg yn cymryd rhan yn y digwyddiad cyntaf i'w gynnal yn Abertawe .
Meddai Dr Heerey:
"Dwi'n teimlo鈥檔 gyffrous iawn wrth feddwl am gymryd rhan a chael cyfle i siarad gyda phobl am ein gwaith diweddar. Mae yna lawer i'w ddysgu ynghylch sut yr ydym yn rhyngweithio 芒'n gilydd. Mae fy nh卯m wedi bod yn edrych ar sut mae pobl yn rhyngweithio'n gymdeithasol 芒'i gilydd a sut maen nhw'n defnyddio ciwiau cymdeithasol i gyfnewid gwybodaeth mewn ffordd sydd y tu hwnt i lif y sgwrs.
Mae pobl yn mynd ati'n ddigymell i newid y ffordd maen nhw'n ymddwyn mewn rhyngweithiad cymdeithasol wyneb yn wyneb trwy ddilyn ciwiau cymdeithasol partner. Rydym wedi darganfod y gallwn ni effeithio ar ymddygiad cymdeithasol pobl, trwy newid mewn ffordd gynnil yr hyn y maen nhw'n disgwyl fydd yn digwydd mewn sgwrs, heb roi unrhyw gyfarwyddiadau uniongyrchol. Yn ddiddorol, mae eu partneriaid cymdeithasol, nad ydynt yn ymwybodol o'r newid, yn synhwyro hyn ac yn newid eu hymddygiad hwythau hefyd."
Mae Dr Kami Koldewyn, darlithydd seicoleg a Leah Johnstone, myfyrwraig PhD mewn Seicoleg yn cymryd rhan hefyd yn y digwyddiad Soapbox Science cyntaf i gael ei gynnal yn Abertawe. Prifysgol Abertawe sy'n trefnu'r digwyddiad ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf 2014, gyda bocsys sebon wedi eu gosod yn edrych dros ehangder Bae Abertawe wrth ochr Traeth 360 a'r Ganolfan Chwaraeon D诺r a'r caffi.
Fel Dr. Heerey, mae Dr Kami Koldewyn hithau 芒 diddordeb mewn dealltwriaeth gymdeithasol ond mae hi'n canolbwyntio ar y canfyddiad o wybodaeth gymdeithasol. Mae hi'n ymddiddori'n bennaf yn natblygiad saern茂aeth yr ymennydd sy'n sylfaen i sgiliau canfyddiad cymdeithasol, fel adnabod pobl o'u hwynebau neu sut maen nhw'n symud, yn ogystal 芒 sut mae rhwydweithiau cymdeithasol yn yr ymennydd yn wahanol mewn pobl gydag anhwylderau niwroddatblygol megis awtistiaeth neu Syndrom X bregus.
Eglurodd: "Mae pobl fel rheol yn anhygoel o dda am ganfod y mynegiant mwyaf cynnil yn yr wyneb neu'r corff. Mae'r gallu hwn yn caniat谩u i ni nid yn unig ddeall llawer iawn am bobl eraill a rhagweld eu hymddygiad ond hefyd ddeall sut mae pobl eraill yn canfod ac yn meddwl amdanom ni. Mae gen i ddiddordeb yn y modd yr ydym yn cyflawni campau mor anodd, a sut mae'r ymennydd yn cael ei weirio wrth iddo ddatblygu i wneud hyn yn bosib. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at Soapbox Science yn Abertawe. Bydd yn rhoi cyfle i mi rannu ychydig bach am fy niddordeb yn yr ymennydd cymdeithasol ac efallai argyhoeddi ychydig o bobl, yn enwedig merched ifanc nad gwaith caled yn unig yw gwyddoniaeth ond y gall fod yn ddifyr ac yn andros o hwyl.
Mae gwaith ymchwil Leah Johnstone yn ymwneud 芒'r defnydd o'r llaw chwith, a pherthynas hyn 芒 rhai swyddogaethau sydd wedi eu lleoli yn y naill hemisffer neu'r llall.
Eglurodd:
"Roedd pobl yn arfer credu y byddai ymennydd rhywun llaw chwith yn wrthwyneb i ymennydd rhywun llaw dde o ran anghymesureddau swyddogaethol, ond dangoswyd dro ar 么l dro nad felly y mae. Mewn gwirionedd, mae ymennydd y rhan fwyaf o bobl llaw chwith wedi ei drefnu yn yr un ffordd 芒 phobl llaw dde. Pam felly nad ydynt yn ffafrio'r llaw dde? Rwy鈥檔 gweithio ar ddatgymalu'r berthynas rhwng anghymesureddau'r ymennydd a dewis llaw."
Bu Leah yn astudio ym Mhrifysgol Nottingham cyn dod i Fangor i wneud gradd meistr mewn Niwroseicoleg Glinigol yn 2011 ac mae'n astudio ar gyfer PhD ar hyn o bryd.
Ychwanegodd:
"Yn Seicoleg mae'r mwyafrif helaeth o fyfyrwyr israddedig yn ferched, ac eto ychydig ohonynt sydd i weld yn aros yn academia ac yn cyrraedd lefel athro. Mae'n amlwg ein bod yn methu ag annog merched i ddilyn gyrfaoedd academaidd/ymchwil. Credaf fod Soapbox Science yn cynnig llwyfan ragorol i ferched sy'n wyddonwyr i arddangos eu gwaith a'u diddordebau angerddol, a'r gobaith yw y byddan nhw yn eu tro yn ysbrydoli merched ifanc trwy ddangos nad yw rhyw'n rhwystr ym maes gwyddoniaeth nac mewn unrhyw faes gwaith arall."
Mae digwyddiadau blaenorol wedi denu tipyn o sylw gan y cyfryngau a gwyddonwyr gyda'r BBC, y Guardian, y Telegraph, New Scientist, Nature and Science i gyd yn rhoi sylw iddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2014