Trefnu bod Data ar Gael ar gyfer Ymchwil
SAIL a NWORTH yn Cytuno ar Gydweithrediad Strategol
Mae SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) a (Uned Dreialon Cinigol 香港六合彩挂牌资料 sydd yn ran o鈥檙 ) wedi cytuno i gydweithio mewn partneriaeth. Mae SAIL yn adnodd byd-eang yn canolbwyntio ar wella iechyd, lles a gwasanaethau. Cydnabyddir ei gronfa ddata o wybodaeth ddienw am boblogaeth Cymru ar raddfa fyd-eang. Mae SAIL a NWORTH ill dau鈥檔 cael cyllid craidd o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (a adwaenid gynt fel Sefydliad Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd). Cedwir amrywiaeth o gyfresi data personol yn SAIL ac, yn amodol ar amddiffyniadau a chymeradwyaeth, mae modd eu cyd-gysylltu鈥檔 ddienw er mwyn ymdrin 芒 chwestiynau pwysig mewn ymchwil.
Mae gan SAIL a NWORTH ddiddordeb mewn cynyddu maint ac ansawdd yr ymchwil gysylltiedig ag iechyd sy鈥檔 digwydd o fewn Cymru, a鈥檙 naill sefydliad yn cydnabod cyfraniad pwysig y llall at hyrwyddo agenda ymchwil. Mae Gogledd Cymru 芒 nifer o nodweddion sy鈥檔 ei wneud yn rhanbarth delfrydol o ran cynnal profion clinigol ac ymchwil eraill sy鈥檔 gysylltiedig ag iechyd. Ar hyn o bryd, mae nifer o fentrau cenedlaethol a rhanbarthol yn gweithio er mwyn cynyddu lefel gweithgaredd ymchwil yng Ngogledd Cymru, o fewn y sector cyhoeddus a鈥檙 sector preifat, fel ei gilydd. Mae i SAIL gryn bosibiliadau o ran ychwanegu gwerth at amrywiaeth o brojectau ymchwil iechyd, o brofion clinigol hyd at astudiaethau epidemiolegol.
Byddai partner strategol wedi鈥檌 leoli o fewn Gogledd Cymru a allai weithredu fel cyswllt lleol ar gyfer grwpiau ymchwil yn gymorth wrth annog cymuned ymchwil Gogledd Cymru i weithio gyda SAIL. Mae NWORTH 芒 th卯m sefydlog o arbenigwyr ymchwil iechyd a chanddynt arbenigedd ym meysydd cynllunio astudiaethau, rheoli profion a phrojectau, a dadansoddi data, felly byddai鈥檔 bartner priodol i ddarparu鈥檙 cyswllt lleol hwn 芒 SAIL.
Mae鈥檙 cydweithrediad hwn yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ymchwilwyr iechyd yng Ngogledd Cymru mewn llawer o amgylchiadau sy鈥檔 gofyn am ddata ar ofal iechyd a gofal cymdeithasol. Rheolir yr holl brojectau sy鈥檔 deillio o鈥檙 cydweithrediad hwn trwy gontractau unigol a fydd yn penderfynu yng nghyswllt Eiddo Deallusol a Llywodraethu Gwybodaeth fesul achos.
Egwyddorion cydweithredu
Mae鈥檙 ddau sefydliad wedi cytuno i gydweithio fel a ganlyn:
- Archwilio cyfleoedd ar gyfer projectau ymchwil ar y cyd, a chynnal y rhain mewn partneriaeth lle bo modd.
- Cynyddu gweithgareddau ymchwil o fewn rhanbarth Gogledd Cymru trwy weithio gyda SAIL.
- Annog sefydliadau鈥檙 GIG yng Ngogledd Cymru (e.e. y Bwrdd Iechyd a meddygfeydd teulu) i ymwneud 芒 SAIL a chyflwyno data i鈥檞 gronfa ddata er mwyn cynnal ymchwil gysylltiedig ag iechyd sydd o fudd i鈥檙 GIG yng Ngogledd Cymru.
- Hyrwyddo digwyddiadau ac ymgyrchoedd ei gilydd trwy bresenoldeb, rhoi cyflwyniadau, lledaenu deunydd a gweithgareddau eraill, fel y bo鈥檔 briodol, sy鈥檔 amlygu鈥檙 cysylltiadau cydweithredol a geir rhwng y ddau sefydliad.
- Bod NWORTH yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer SAIL ymysg ymchwilwyr sydd wedi鈥檜 lleoli yng Ngogledd Cymru, ac yn rhoi cymorth a chyngor yn lleol, yn 么l y gofyn, i ymchwilwyr sydd 芒 diddordeb mewn gweithio gyda SAIL.
Mae鈥檙 cydweithrediad yn gwella project Llwyfan Data Iechyd NWORTH sy鈥檔 ceisio trefnu bod data cysylltiedig ag iechyd a gesglir yn rheolaidd ar gael ymchwilwyr, a hynny mewn modd rheoledig a diogel. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 芒 Kevin Mawdesley ar: k.mawdesley@bangor.ac.uk, 01248 388222 (est. 8222) neu ewch i鈥檔 gwefan trwy鈥檙 cyswllt canlynol: .
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2015