Ugain mlynedd o'r Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mangor
Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, dechreuodd yr Athro Mark Williams ymchwilio i geisio helpu pobl a oedd yn dueddol gwympo yn ôl i iselder ar ôl gwella. Aeth y siwrnai honno ag ef i gyd-arwain treial ar hap o Therapi Gwybyddol Seiliedig ar yr Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) gyda Zindel Segal a John Teasdale. Bu canlyniadau hynod y treial hwnnw’n sbardun i ddiddordeb cynyddol o ran integreiddio’r ymwybyddiaeth ofalgar mewn ymyriadau seicolegol ac yn nhriniaethau’r brif ffrwd fel y gwasanaeth iechyd.
Ugain mlynedd yn ôl, sefydlwyd Canolfan Ymchwil ac Ymarfer yr Ymwybyddiaeth Ofalgar(CMRP) ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn sgil y diddordeb hwnnw. Dros y ddau ddegawd diwethaf, bu CMRP yn arloesi yn natblygiad dulliau hyfforddi i athrawon yr ymwybyddiaeth ofalgar, gan gynnwys sefydlu'r rhaglen meistr gyntaf yn y maes trwy’r byd i gyd; integreiddio’r ymwybyddiaeth ofalgar mewn cyd-destunau academaidd; datblygu ymchwil ar sgiliau dysgu’r ymwybyddiaeth ofalgar a'r broses o weithredu’r ymwybyddiaeth ofalgar. Bu’r Ganolfan hefyd yn cynnig arweiniad yngl欧n â sut i ddod â Rhaglenni Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBP) i'r brif ffrwd mewn ffyrdd sy'n cadw’r potensial trawsnewidiol sydd iddynt.
Yn y gymdeithas dros y ddau ddegawd diwethaf, cynyddodd diddordeb y cyhoedd yn yr ymwybyddiaeth ofalgar, ac mae cydnabyddiaeth ddyfnach ar lefel polisi a chymdeithas bod cyflwr ein meddyliau a'n calonnau yn y pen draw yn dylanwadu ar bopeth a wnawn. Felly mae’r Ymwybyddiaeth Ofalgar wedi gafael, a daeth bellach i mewn i’r ysgolion, y gwasanaeth iechyd, gweithleoedd a rhannau eraill o’r brif ffrwd. Mae’r gymdeithas ddynol a’r ddaear bellach ar groesffordd dyngedfennol a hynny ar sawl lefel - mae argyfwng yr hinsawdd a bioamrywiaeth, anghydraddoldebau, a bygythiadau i ddemocratiaeth yn rymoedd y mae pawb yn eu teimlo nawr. Ni fu erioed angen mor ddirfawr i ddatblygu ymwybyddiaeth gymdeithasol-fuddiol.
Gall athrawon yr Ymwybyddiaeth Ofalgar ledled y byd wneud cyfraniad mawr at anghenion y dydd heddiw. Mae pawb sy’n cyfranogi o’r Ymwybyddiaeth Ofalgar yn mynd ar daith bersonol. Mae agweddau personol i hyn a rhai sy’n gyffredin i bawb. Y prosesau cyffredinol yr ydym oll yn eu meithrin wrth inni ymarfer ac integreiddio’r ymwybyddiaeth ofalgar yn ein bywydau yw ymwybyddiaeth a thosturi, ac mae hynny'n dylanwadu'n fawr ar y modd yr ydym yn ymwneud â ni'n hunain ac ag eraill.
Deuwn i sylweddoli bod meddwl tawel a lles personol yn gwbl gysylltiedig â lles yr holl systemau byw. Mae'r pandemig wedi amlygu hyn oll - rydym yn cydnabod nad oes neb yn ddiogel nes bydd pawb yn ddiogel. Mae tîm Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a maes ehangach yr Ymwybyddiaeth Ofalgar yn mynd ati i ymchwilio (trwy ymchwil ac ymarfer) i sut y gallai athrawon yr Ymwybyddiaeth Ofalgar harneisio’r ymwybyddiaeth ofalgar yn fwy effeithiol i gyfrannu at helpu gyda heriau mawr ein cyfnod.
Athro neu athrawes yr Ymwybyddiaeth Ofalgar wrth reswm yw cyfrwng dysgu’r Ymwybyddiaeth Ofalgar. Mae awydd mawr yn ganolog i genhadaeth Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 sef darparu adnoddau a chefnogi athrawon yr Ymwybyddiaeth Ofalgar fel y gallant ffynnu, a chynnig eu dysgeidiaeth yn eu cymunedau. Fis Mai 2021 rydym yn lansio llyfr newydd o'r enw '' sy'n crynhoi’r adnoddau a ddatblygasom dros y ddau ddegawd diwethaf i gefnogi athrawon yr Ymwybyddiaeth Ofalgar ar eu siwrnai. Mae’n ffrwyth 20 mlynedd o waith cydweithredol a brwdfrydig tîm hyfforddi 香港六合彩挂牌资料.
Mae tair rhan i’r llyfr. Mae Rhannau I a II yn ymwneud ag elfennau eglur a goblygedig y cwricwlwm yr ydym yn gweithio wrtho: Lleihau Straen gyda’r Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR) ac MBCT; mae Rhan III yn cynnig crynodeb o adnoddau i gefnogi athrawon yr Ymwybyddiaeth Ofalgar. Rhagwelwn y daw’r llyfr yn gydymaith buddiol a chynhaliol i siwrnai barhaus athrawon yr Ymwybyddiaeth Ofalgar.
Rydym yn dathlu lansiad y llyfr a phen-blwydd 20 mlynedd lansio canolfan yr ymwybyddiaeth ofalgar ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 gyda chyfres o gyflwyniadau a deialogau ar-lein gydag arweinwyr ac awduron allweddol. Ymunwch â ni! Gweler y manylion .
Rebecca Crane PhD, Cyfarwyddwr CMRP
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2021