Un llaw a dau hemisffer: Sut mae dwy ochr yr ymennydd yn ymaddasu ar 么l colli rhan o'r corff
Mae seicolegwyr wedi , sut mae plastigrwydd a gallu'r ymennydd i addasu, yn ymestyn dros ddwy ochr yr ymennydd.
Mae'n hysbys ers tro os collir rhan o'r corff neu ryw swyddogaeth o'r corff, y gall rhan gyfagos o'r ymennydd, sy'n rheoli swyddogaeth arall, ymestyn i'r rhan o'r ymennydd sy'n gyfrifol am y swyddogaeth goll a dod yn gyfrifol dros ei reoli.
Bellach mae sganiau MRI swyddogaethol wedi dangos mewn pobl sydd wedi colli llaw, bod y swyddogaethau sy'n rheoli'r llaw arall yn ymestyn dros ddau hemisffer yr ymennydd.
Gallai'r ddealltwriaeth newydd yma helpu datblygu therap茂au newydd ar gyfer unigolion sydd wedi colli neu anafu aelod o'r corff, ac mae goblygiadau o ran datblygu coesau prosthetig a gynllunnir i adfer cyffyrddiad a theimlad.
Esbonia Dr Ken Valyear Darlithydd a Phrif Ymchwilydd Labordy'r Dwylo a'r Ymennydd Ysgol Seicoleg flaenllaw Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a phrif awdur y papur ymchwil:
鈥淢ae gwahanol rannau o'r ymennydd yn ymwneud 芒 theimlo a symud gwahanol rannau o'r corff, ac fel rheol, mae ochr chwith yr ymennydd yn ymateb pan ydym yn teimlo rhywbeth gyda'r llaw dde, ac mae ochr dde'r ymennydd yn ymateb pan ydym yn teimlo rhywbeth gyda'r llaw chwith.
Mae'r canfyddiadau newydd yn datgelu newid syfrdanol yn y berthynas honno. Gwelsom pan fydd rhywun yn colli llaw, mae dwy ochr yr ymennydd yn ymateb pan gyffyrddir 芒'r llaw sy'n weddill. Mae fel petai'r rhan o'r ymennydd a arferai reoli'r llaw a gollwyd yn cael r么l newydd, i helpu prosesu gwybodaeth gan y llaw sy'n weddill."
Gwelwyd canlyniad tebyg mewn rhywogaethau eraill, ond dyma'r arbrawf cyntaf i ddangos hyn yn yr ymennydd dynol.
Ychwanegodd Ken Valyear: 鈥淢ae'r canlyniad newydd hwn yn ehangu ein dealltwriaeth o blastigrwydd yr ymennydd dynol. Wrth symud ymlaen, rydym wedi dechrau rhywfaint o waith newydd ym Mangor a fydd yn help inni ddeall yn well y newidiadau sy'n digwydd yn yr ymennydd oherwydd anafiadau difrifol i nerfau ymylol y llaw. Mae'r gwaith newydd yn gyffrous, ac mae posibilrwydd o ddysgu rhywbeth a wnaiff helpu'r cleifion yma wella.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019