Ydych chi'n defnyddio 'hunan-siarad' yn rhan o'ch hyfforddiant chwaraeon dygnwch? Dyma'r hyn y mae angen i chi ei wybod
Mae ymchwil newydd yn awgrymu sut y gallwch chi ennill y blaen ar y rhai sy鈥檔 cystadlu yn eich erbyn mewn chwaraeon dygnwch
Mae'n debyg eich bod wedi dal eich hun rywdro yn rhoi anogaeth i chi eich hun o dan eich gwynt, wrth wynebu her gorfforol arbennig o anodd efallai, neu pan oeddech chi dan ryw fath o straen; 鈥淭y'd 'laen, fedri di 'neud hyn!鈥 neu 鈥淒wi'n gw'bod y medra i 'neud hyn!鈥
Mae seicolegwyr chwaraeon wedi darganfod bod siarad 芒 chi eich hun yn yr ail berson: 鈥淭i angen gwneud coblyn o ymdrech r诺an!鈥, mewn gwirionedd yn fwy effeithiol na siarad 芒 chi eich hun yn y person cyntaf, 鈥淒wi angen gwneud coblyn o ymdrech r诺an!鈥
Mae ymchwilwyr seicoleg chwaraeon o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 newydd gyhoeddi darn o waith ymchwil ( ) sydd wedi darganfod bod cyfranogwyr a gafodd gyfarwyddyd i hunan-siarad yn defnyddio'r ail berson wrth seiclo wedi cynhyrchu rhagor o b诺er na'r rhai y dywedwyd wrthynt am ddefnyddio'r person cyntaf.
Hon yw'r astudiaeth gyntaf i ddangos bod sut mae athletwyr yn defnyddio hunan-siarad yn gwneud gwahaniaeth. Gallai'r ymchwil olygu bod gan hyfforddwyr rywbeth arall i'w ystyried wrth ddatblygu ymyriadau hunan-siarad effeithiol.
Esboniodd un o awduron y papur, James Hardy, o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol:
鈥淢ae seicolegwyr chwaraeon yn ymwybodol ers talwm fod hunan-siarad yn gallu bod yn ddefnyddiol er mwyn perfformio'n well. Ond doedd neb yn gwybod bod gwneud newid gramadegol bach wrth hunan-siarad, hynny ydy, defnyddio'r ail berson (鈥淢i fedri di 'neud hyn鈥) yn lle'r person cyntaf (鈥淢i fedra i 'neud hyn鈥) yn gallu effeithio ar berfformiad; hynny ydy, tan i ni wneud yr ymchwil yma.鈥
鈥淲rth gwrs, mae gwahanol fathau o dasgau'n gysylltiedig 芒 gwahanol gampau a does gennym ni ddim cymaint o wybodaeth am y tasgau sy'n rhan o chwaraeon dygnwch, a dyna pam y defnyddion ni seiclo ar gyfer yr ymchwil.鈥
鈥淢ae ein canfyddiadau, sy'n seiliedig ar 16 o ddynion actif, yn dangos bod hunan-siarad yn yr ail berson yn cynhyrchu allbwn p诺er llawer uwch a pherfformiad cyflymach mewn treialon amser na hunan-siarad yn y person cyntaf. Yn ddiddorol ddigon, wnaeth y cyfranogwyr ddim adrodd am unrhyw wahaniaeth o ran eu canfyddiad o'r ymdrech wnaethon nhw. Felly roedden nhw'n gallu gwneud mwy o waith ond wnaethon nhw ddim sylwi fod unrhyw wahaniaeth mewn ymdrech.鈥
Dyma'r dystiolaeth gyntaf fod defnyddio rhagenwau gramadegol yn strategol wrth hunan-siarad yn dylanwadu ar berfformiad corfforol. Mae hyn yn golygu bod gan ymarferwyr agwedd newydd i'w hystyried wrth ddatblygu ymyriadau.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2019