Ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod 鈥 Adolygu tystiolaeth
Mae cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, ar y cyd ag Uned Gydweithredu Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, wedi creu adroddiad newydd 鈥Ymateb i Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod鈥.
Mae鈥檙 adroddiad newydd, a ddatblygwyd gan Dr Lisa Di Lemma, yn archwilio tystiolaeth ar draws amrywiaeth o raglenni sy鈥檔 ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE). Edrychodd yr adroddiad ar raglenni ac ymyriadau ar gyfer 11 math unigol o ACE, ac ACE fel term cyffredinol, i nodi ymagweddau cyffredin ar draws rhaglenni.
Mae Dr Alisha Davies, Pennaeth ymchwil i鈥檙 gyfarwyddiaeth, yn esbonio 鈥淣id oes un ymyrraeth neu ymagwedd unigol sydd yn mynd i鈥檙 afael 芒 chymhlethdod ACE. Trwy ddod 芒 sail dystiolaeth estynedig a chymhleth ynghyd, rydym wedi defnyddio saith thema allweddol o lenyddiaeth sydd yn gyffredin ac yn bwysig o ran atal a lleddfu鈥檙 niwed yn sgil trallod yn ystod cwrs bywyd鈥.
Y 7 Thema Allweddol:
- Hybu datblygiad ymddygiadol-gwybyddol ac emosiynol yn ystod plentyndod
- Hybu hunaniaeth a hyder ymysg plant ac oedolion
- Datblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o achosion a chanlyniadau ACE ymysg y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol
- Datblygu sgiliau a strategaethau newydd i ymdopi 芒 thrallod
- Adnabod trallod yn gynnar trwy wasanaethau therapiwtig a rhyngwyneb i adnabod a chefnogi rhieni, plant a鈥檙 rheiny sydd wedi eu heffeithio trwy gydol cwrs bywyd
- Ymagwedd gydweithredol ar draws sectorau a sefydliadau
Adlewyrchodd Dr Davies hefyd 鈥淣id yw鈥檙 adroddiad hwn yn adolygiad systematig trylwyr o鈥檙 ymyriadau ar gyfer mathau penodol o ACE, nac yn eirioli unrhyw ymyrraeth benodol, ond mae鈥檔 cyflwyno crynodeb o鈥檙 dystiolaeth ymchwil ar ymagweddau cyffredin.
Cafodd y rhan fwyaf o鈥檙 rhaglenni hyn eu datblygu yn UDA, felly er eu bod yn ymddangos fel pe baent yn cyflawni canlyniadau addawol, bydd angen 鈥榯rosi鈥 y canlyniadau hyn i gyd-destun y DU cyn y gellir eu gweithredu鈥.
Daw Dr Davies i鈥檙 casgliad, 鈥淢ae cymhlethdod ACE ar draws cwrs bywyd yn her anodd a phwysig i fynd i鈥檙 afael 芒 hi, ac yn un sydd angen ymateb sy鈥檔 ymestyn ar draws sectorau a chenedlaethau. Ein gobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn adnodd defnyddiol i gefnogi arloesi a datblygiad tuag at ddyfodol sydd yn rhydd rhag ACE.鈥
Mae ACE yn ddigwyddiadau llawn straen sydd yn digwydd yn ystod plentyndod. Gall y rhain gynnwys dioddef cam-drin corfforol neu rywiol, neu gael eich magu ar aelwyd lle mae camddefnyddio alcohol neu sylweddau, trais domestig, salwch meddwl ac aelod o鈥檙 teulu yn y carchar. Mae tua hanner poblogaeth Cymru wedi dioddef o leiaf un ACE.
Mae unigolion sydd wedi profi pedwar ACE neu fwy 芒 pherygl uwch o ddioddef yr effeithiau niweidiol sydd yn gysylltiedig ag ACE. Mae astudiaethau ACE yng Nghymru wedi nodi graddfa鈥檙 peryglon hyn ar gyfer y rheiny 芒 phedwar ACE neu fwy o鈥檜 cymharu 芒鈥檙 rheiny 芒 dim i fod:
- Bedair gwaith yn fwy tebygol o yfed ar raddfa risg uchel
- Chwe gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael triniaeth am salwch meddwl
- Chwe gwaith yn fwy tebygol o fod yn smygwr
- Pymtheg gwaith yn fwy tebygol o fod yn gysylltiedig 芒 thrais, ac
- Ugain gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael eu carcharu
Am fwy o wybodaeth am Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod, ewch i:
a
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2019