Ymchwil newydd i seibiannau byr ystyrlon i ofalwyr
Mae deddfwriaeth gofal cymdeithasol yn cydnabod pwysigrwydd datblygu ffyrdd arloesol o hyrwyddo lles gofalwyr a phobl ag anghenion gofal cymhleth. Mae hyn yn cynnwys cefnogi perthnasoedd gofalu drwy ddarparu seibiannau byr ystyrlon, ac mae hynny bellach yn flaenoriaeth o ran gofal cymdeithasol ym mhedwar rhanbarth y Deyrnas Unedig. Mae gofalwyr yn cyfeirio'n rheolaidd at seibiannau fel un o dair ffactor a allai wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau a'u helpu i wella eu lles personol drwy ganiat谩u iddynt wneud pethau megis cadw mewn cysylltiad 芒 ffrindiau a meithrin diddordebau a hob茂au.
Yn ddiweddar cafodd Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ei chomisiynu gan Shared Care Scotland i gynnal Adolygiad Rhychwantu er mwyn deall yn well y dystiolaeth ymchwil am seibiannau byr i ofalwyr (a elwir weithiau yn ofal seibiant) a'r hyn y mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym am effaith seibiannau byr ar ofalwyr.
Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar ganfod ymchwil sy'n dangos beth yw cyfraniad seibiannau byr at gyflawni'r canlyniadau canlynol i ofalwyr:
- Iechyd a lles.
- Cael eu bywyd eu hunain.
- Cael perthynas gadarnhaol gyda'r person maen nhw'n rhoi cefnogaeth iddo/iddi.
- Dewisiadau gofalu, gan gynnwys terfynau.
- Boddhad wrth ofalu.
Bydd canfyddiadau'r adolygiad yn:
- Helpu i ganfod bylchau yn y llenyddiaeth ymchwil bresennol.
- Cefnogi gwaith Gr诺p Datblygu Ymarfer ac Ymchwil i Seibiannau Byr y DU, sydd newydd ei sefydlu, gan helpu i lunio gweledigaeth ymchwil y gr诺p a cheisiadau am gyllid yn y dyfodol.
- Llywio'r gwaith o weithredu polis茂au ac ymarfer yn effeithiol.
Dywedodd Don Williamson, Prif Weithredwr Shared Care Scotland:
"Mae'n hanfodol bwysig wrth symud ymlaen fod gennym ddarlun llawn o statws yr ymchwil i seibiant er mwyn gallu defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael i lywio polis茂au ac arferion yn y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar adeg pan fo adnoddau dan gymaint o bwysau a'r galw am seibiannau ar gynnydd. Bydd yr Adolygiad Rhychwantu hwn yn gam sylweddol ymlaen yn hyn o beth gan y bydd yn mynd ati i ganfod astudiaethau ymchwil amrywiol ac yn dod 芒 nhw ynghyd mewn un lle. O wneud hyn, gallwn hefyd ddechrau nodi bylchau a chynnig strategaethau newydd i annog ymchwil yn y meysydd hyn."
Gwneir y gwaith gan ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Diane Seddon, Darllenydd mewn Gofal Cymdeithasol ac Arweinydd Ymchwil Gofal Cymdeithasol, Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料(d.seddon@bangor.ac.uk).
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019