Ymchwil newydd yn dweud fod gwir gost gamblo'n cael ei danbrisio
Yn 么l gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw nid yw'r ffocws presennol ar unigolion sy'n 'gamblwyr problemus' yn ystyried holl gostau gamblo ar iechyd a'r gymdeithas ac mae hynny'n diystyru'r effaith ehangach ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau.
Gwaith a wnaed ar y cyd yw hwn gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heather Wardle Research a Phrifysgol Abertawe. Mae'r gwaith hefyd yn dangos bod cyfraddau gamblo problemus ar eu gwaethaf yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Mae'r gwaith yn edrych ar yr heriau a'r cyfleoedd sydd i fynd i'r afael 芒 niwed gamblo fel mater o bryder o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru ac ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod plant a phobl ifanc, pobl 芒 phryderon ariannol a dyledion, pobl 芒 phroblemau iechyd meddwl, pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol, a phobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy agored i niwed gamblo nag eraill.
Mae'r gwaith yn cael ei ryddhau wedi cynnydd dramatig dros y blynyddoedd diwethaf yn nifer y cyfleoedd sydd i gamblo. Ymhlith y rhesymau dros hynny mae llacio rheoleiddio a datblygiadau technolegol. Mae Deddf Gamblo 2005 wedi gwneud y farchnad gamblo yn fwy rhyddfrydol, ac mae gamblo bellach yn rhan amlwg o ddiwylliant ac economi Prydain.
Yng Nghymru, gwariodd tua 55% o oedolion (16 oed neu h欧n) arian ar ryw fath o gamblo yn 2016. Nodwyd bod 0.8% o oedolion yn gamblwyr problemus, a bod 3.3% mewn perygl. Amcangyfrifwyd bod y costau i iechyd, lles, cyflogaeth, tai a chyfiawnder troseddol a achosir gan gamblwyr problemus rhwng 拢40m a 拢70m yng Nghymru. Mae'r ffigyrau hyn wedi ysgogi cryn drafodaeth gyhoeddus a gwleidyddol am effeithiau gamblo ar iechyd a'r gymdeithas yng Nghymru. Yn ei adroddiad blynyddol yn 2018, galwodd Prif Swyddog Meddygol Cymru am gryfhau'r ymateb polisi i'r her iechyd hon nad yw, hyd yma, wedi cael ei gwerthfawrogi'n llawn.
Gall gamblo achosi sawl math o niwed, a bydd rhai ohonynt yn niweidio lles pobl yn yr hirdymor. Fel mathau eraill o anghydraddoldebau iechyd, ni chaiff niwed gamblo ei ddosbarthu'n gyfartal mewn cymdeithas.
Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn rhyddhau o ddosbarthiad tebygol y risg o niwed gamblo ledled Cymru. Mae'r map yn dangos sut mae ffactorau risg cymdeithasol, iechyd ac economaidd o ran niwed gamblo yn amrywio; er enghraifft, rhwng gwahanol rannau o drefi mawr a dinasoedd, a rhwng ardaloedd trefol a chefn gwlad. Gall y map risg lywio'r gwaith o ddylunio mentrau polisi iechyd cyhoeddus a chefnogi'r gwaith o lunio asesiadau risg lleol ar gyfer prosesau trwyddedu'r awdurdodau lleol (sydd yn ofyniad rheoleiddiol).
Prif awdur yr adroddiadau yw'r Athro Robert Rogers o Ysgol Seicoleg Prifysgol 香港六合彩挂牌资料. Dywedodd: "Mae newid diweddar sy'n ystyried gamblo fel her iechyd cyhoeddus yn gofyn am bolis茂au i fynd i'r afael 芒 gamblo fel anghydraddoldeb iechyd. Bydd angen set gynhwysfawr o fesurau i amddiffyn y grwpiau sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas rhag niwed ehangach i'w hiechyd a'u lles, yn ogystal 芒 darparu ymyraethau wedi'u targedu ar gyfer yr unigolion yr effeithiwyd arnynt waethaf. Gobeithiwn y bydd y gwaith hwn yn ysgogi gwaith ar ddatblygu polis茂au yng Nghymru ac ar lefel y Deyrnas Unedig, a fydd yn cyfrannu at y ddadl ehangach ynghylch y cydbwysedd rhwng polis茂au i amddiffyn grwpiau diamddiffyn rhag niwed a diogelu rhyddid pobl i gamblo."
Dywedodd yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae hysbysebu wedi'i dargedu ynghyd 芒 thwf sydyn mewn betio ar-lein yn golygu bod diwydiant gamblo 24 awr yn mynd ag arian mwy a mwy o bobl. Yn llawer rhy aml, mae hynny'n digwydd i'r bobl na fedr fforddio'r fath golledion. Mae'r gwaith hwn yn tynnu sylw at y ffaith mai aelodau mwyaf bregus ein cymunedau sy'n aml yn dioddef waethaf o dan y rheoliadau gamblo cyfredol. Mae'r niwed a achosir gan golledion unigolion yn effeithio nid yn unig ar y gamblwr, ond ar ei deulu, ei ffrindiau a'i gymuned. Dyna pam fod y gwaith hwn yn annog dull o ymdrin a gamblo sy'n ystyried iechyd y cyhoedd ac yn mynd i'r afael 芒'r niwed y mae gamblo yn ei achosi mewn cymdeithas ac nid yn unig y niwed mae'n ei achosi i'r betiwr ei hun."
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2019