Ymchwil risg anafiadau Undeb Rygbi ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料
Mae Seren Evans yn ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, ac mae'n ymchwilio i effaith risg anaf o fewn yr Undeb Rygbi a ariennir gan y Coleg Cymraeg. Mae ei hymchwil yn cynnwys gwyliadwriaeth anafiadau manwl dros gyfnod o 4 blynedd, gan nodi'r anafiadau mwyaf cyffredin a mwyaf difrifol yn y gamp. Mae cyfergyd (concussion) yn rhywbeth cyffredin fewn undeb rygbi, ac mae'n parhau i fod yn destun pryder i staff meddygol, swyddogion gemau a lles chwaraewyr ac mae'n ffocws enfawr i'r cyrff llywodraethu chwaraeon ar hyn o bryd.
Mae achos cyfreithiol posib gan gyn-chwaraewyr yn erbyn awdurdodau undeb rygbi gyda nifer o gyn-chwaraewyr wedi cael diagnosis o anafiadau hirdymor i'r ymennydd sy'n ceisio herio Rygbi'r Byd, yr Undeb P锚l-droed Rygbi ac Undeb Rygbi Cymru yn y llysoedd.
Fel y trafododd Seren ar ei chyfweliad ar BBC Radio Cymru (cyfweliad yn Gymraeg ar gael tan 26 Mawrth 2022 ar y ddolen isod), rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr Asesiadau Anafiadau Pen (HIA) yn ystod gemau rhyngwladol Twrnamaint y Chwe Gwlad, a hyn oherwydd gwell ymchwil i effeithiau hir dymor a thymor byr o ddioddef cyfergyd mewn ymgais i amddiffyn a dylanwadu ar hirhoedledd gyrfa a lles chwaraewyr yn y dyfodol. Mae rygbi yn gamp hynod bwysig i Gymru ac efallai y bydd yr ymchwil hon ym Mangor yn y pen draw yn helpu i amddiffyn chwaraewyr rhag anaf.
Gwrandewch eto ar Seren yn siarad ag Aled Hughes ar BBC Radio Cymru:
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2021