Ymddangosiad naturiol yn llawer pwysicach na cholur wrth bwyso a mesur dengarwch
Mae鈥檙 syniad bod colur yn eich gwneud yn fwy deniadol i鈥檞 weld ym mhob man o鈥檔 cwmpas. Ar y rhyngrwyd ceir miloedd o diwtorialau ar sut i roi colur, mae cylchgronau ffasiwn yn llawn erthyglau ar hoff goluron enwogion, ac mae llawer o ferched yn teimlo na allant fynd allan o鈥檙 t欧 hebddo. Mae鈥檙 ymddygiad beunyddiol yma wedi bod yn bwnc ymchwiliadau gwyddonol hefyd, gyda llawer o astudiaethau鈥檔 darganfod bod merched nid yn unig yn cael eu hystyried yn fwy deniadol gyda cholur, ond eu bod hefyd yn iachach, yn fwy medrus ac yn fwy hoffus.
Un agwedd ar golur nad yw wedi cael ei hystyried eto yw ei effeithiolrwydd o ran cynyddu dengarwch. A鈥檌 roi鈥檔 syml, faint yn fwy atyniadol mae colur yn eich gwneud? Meddyliwch am yr amrywiaeth mawr o wynebau rydych yn eu gweld ar eich ffordd i鈥檙 gwaith bob dydd, neu pan ydych yn mynd allan i siopa. Mae yna amrywiaeth mawr yn nengarwch pobl. Ydi defnyddio colur yn cydbwyso鈥檙 amrywiaeth hwn gan roi鈥檙 rhai sy鈥檔 defnyddio colur ar dir mwy gwastad a鈥檌 gilydd?
Tra oeddent yn Ysgol Seicoleg Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, fe wnaeth Dr Alex Jones (nawr o Goleg Gettysburg, Pennsylvania) a鈥檌 chydweithiwr, Dr Robin Kramer o Brifysgol Aberdeen, ymchwilio i鈥檙 cwestiwn hwn. I wneud hynny fe wnaethant ofyn i鈥檙 rhai a oedd yn cymryd rhan yn eu harbrawf ystyried yr un wynebau gyda cholur a heb golur, gyda鈥檙 cyfyngiad nad oedd unrhyw unigolyn yn gweld yr un ddynes gyda cholur a hebddo. Os yw colur yn bwysig o ran dengarwch, dylai ddod dros yr amrywiaeth mewn dengarwch rhwng wynebau yn hawdd. Ond, os nad yw鈥檔 cyfrannu fawr ddim, yna gallai鈥檙 amrywiaeth naturiol rhwng wynebau orbwyso unrhyw fanteision o ddefnyddio colur.
Y newydd da oedd bod wynebau gyda cholur yn cael eu hystyried yn fwy deniadol 鈥 dim byd newydd yn hynny. Ond pan edrychwyd ar yr holl resymau pam roedd pobl yn gweld rhai wynebau鈥檔 fwy deniadol nag eraill, dim ond 2% o wahaniaeth oedd defnyddio colur yn ei wneud i鈥檙 sg么r. O鈥檌 gymharu, roedd rhesymau eraill pam roedd rhai wynebau鈥檔 fwy deniadol nag eraill yn 69%. Roedd y canlyniad hwn yn dipyn o syndod. Gwelwyd bod maint effaith colur ar pa mor ddeniadol yr ystyrir wynebau yn hynod fach mewn gwirionedd.
Beth mae鈥檙 canlyniadau hyn yn ei olygu? Meddai Dr Kramer o Brifysgol Aberdeen, 鈥淢ae鈥檙 darganfyddiadau yma鈥檔 dangos, tra bo colur yn cynyddu dengarwch, eto鈥檌 gyd mae鈥檔 elfen fach iawn ym marn pobl pam fod rhai wynebau鈥檔 fwy deniadol nag eraill.鈥
Ychwanegodd Dr Alex Jones : 鈥淢ae yna lawer o resymau pam mae merched yn rhoi colur ac un o鈥檙 rhesymau hynny efallai yw anfodlonrwydd efo鈥檜 hymddangosiad. Mae delwedd y corff yn rhywbeth sy鈥檔 cael sylw mawr iawn mewn cymdeithas fodern ac rydym wedi dangos o鈥檙 blaen bod llai o golur yn cael ei ystyried yn fwy deniadol. Y neges amlwg o鈥檙 astudiaeth yma, p鈥檜n a ydym yn ei hoffi ai peidio, yw bod ein dengarwch yn cael ei bennu i raddau helaeth gan ein hymddangosiad naturiol ac na fydd defnyddio colur yn cael llawer iawn o effaith ar hynny.鈥
Cyhoeddwyd y papur yn y cyfnodolyn Perception: Perception 44 (1) 79-86
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2015