Ymestyn y Food Dudes yn ninas Wolverhampton
Mae Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol GIG Dinas Wolverhampton, sydd wedi arloesi ym Mhrydain drwy fabwysiadu defnydd cynllun Food Dudes i annog plant ysgol i fwyta rhagor o ffrwythau a llysiau, wedi penderfynu ymestyn y cynllun am ddwy flynedd arall.
Wedi鈥檌 ddatblygu gan Uned Ymchwil Bwyd a Gweithgaredd Ysgol Seicoleg Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, cafodd y cynllun ei gyflwyno yn Ionawr 2009. Roedd wedi鈥檌 gynllunio i redeg tan Ragfyr 2011, gan fod o fudd i 20,000 o ddisgyblion Ysgolion cynradd ac arbennig 鈥 ar gost o 拢500,000.
Wrth groesawu鈥檙 newyddion, dywedodd yr Athro Fergus Lowe, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol 芒 chyfrifoldeb dros arloesi 芒鈥檙 ymchwil: 鈥淢ae project y Food Dudes yn Wolverhampton wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac wedi cael cydnabyddiaeth ar ffurf Gwobr Aur y Prif Swyddog Meddygol. Felly, rydym yn falch fod yr Ymddiriedolaeth wedi penderfynu ymestyn y cynllun am ddwy flynedd arall. Mae hon yn esiampl yr ydym yn gobeithio y bydd sawl rhanbarth yng Nghymru a Lloegr yn ei hefelychu.鈥
Wolverhampton yw鈥檙 ddinas gyntaf i gyflwyno鈥檙 cynllun trwyddi draw yn y DU ac, erbyn hyn, mae 48 o鈥檙 84 ysgol gynradd ac arbennig yn y ddinas wedi cymryd rhan. Cytunodd aelodau鈥檙 Bwrdd yn ddiweddar i ymestyn y rhaglen tan Ragfyr 2013 gan ganiat谩u i 9,000 o blant ychwanegol fanteisio arno.
Mae鈥檙 cynllun yn defnyddio pedwar cymeriad cart诺n 鈥 y Food Dudes 鈥 i annog plant i fagu hoffter o ffrwythau a llysiau, eu hannog i鈥檞 bwyta gartref ac i ymfalch茂o yn eu mwynhad o fwyd iach.
Yng nghyfnod 16-diwrnod cyntaf y cynllun, mae鈥檙 disgyblion yn profi pedwar llysieuyn o liwiau, teimlad a dwysedd gwahanol. Maent yn derbyn gwobrau bychain fel peli jyglo, pensil neu pedomedr i鈥檞 hannog i flasu鈥檙 cynnyrch droeon. Mae鈥檙 athrawon hefyd yn rhoi esiampl dda drwy brofi鈥檙 un bwyd 芒鈥檙 disgyblion, ac mae pob disgybl yn derbyn pecyn gwybodaeth i fynd adref er mwyn eu hannog i fwyta mwy o ffrwythau a llysiau gyda鈥檜 teuluoedd.
Yn yr ail gyfnod, mae鈥檙 plant yn cael eu hannog i barhau i fwyta ffrwythau a llysiau, ac mae siartiau yn y dosbarth yn cofnodi beth mae pawb wedi鈥檌 fwyta, gan ennill mwy o wobrau a thystysgrifau Food Dudes.
Mae鈥檙 fenter yma eisoes yn dangos gwelliannau syfrdanol mewn arferion bwyta. Cwblhaodd y Brifysgol ymchwil ar chwe ysgol y llynedd. Dangosodd y rhain bod plant yn cynyddu鈥檙 maint o ffrwythau roeddent yn ei fwyta o 54% a llysiau o 48%. Yn y cyfamser, roedd y maint o fyrbrydau siwgraidd a bras wedi gostwng o 20%.
Wedi cymryd rhan yn y rhaglen, mae ysgolion yn cael eu monitro am flwyddyn arall i weld a oes lleihad yn y maint o ffrwythau a llysiau sy鈥檔 cael ei bwyta. Mae鈥檙 wybodaeth a gasglwyd wedi dangos nad hyn sy鈥檔 digwydd. I鈥檙 gwrthwyneb, mae鈥檙 ysgolion yn cynyddu ac yn cynnal y gwelliant mewn bwyta ffrwythau a llysiau.
Mae鈥檙 fenter wedi bod yn benodol lwyddiannus mewn ysgolion arbennig, lle mae cyraeddiadau neilltuol yn cynnwys bachgen 10 oed nad oedd erioed wedi bwyta bwyd solet ond a oedd, ar 么l rhan gyntaf y rhaglen, yn blasu a bwyta ffrwythau a llysiau gyda gweddill ei ddosbarth 鈥 newid byd iddo ef a鈥檌 deulu. Yn ddiweddar daeth bachgen arall ag anghenion arbennig yn bencampwr mewn bwyta ffrwythau a llysiau ac enillodd dystysgrif pencampwr, sef y wobr uchaf o fewn y cynllun.
Hyd yn hyn, pedair o鈥檙 saith ysgol arbennig yn y ddinas sydd wedi cymryd rhan, a bydd y tair ysgol sy鈥檔 weddill yn cymryd rhan yn y flwyddyn olaf.
Nod y Food Dudes yw cynyddu a pharhau鈥檙 arfer o fwyta ffrwythau a llysiau ymysg plant 4-11 oed, fel bod hynny鈥檔 dod yn arferiad iddynt trwy gydol eu hoes. Mae鈥檙 cynllun yn profi鈥檔 llwyddiannus iawn yn Lloegr, yn Iwerddon, yn yr Eidal ac mewn gwledydd eraill. Ym mis Mai, enillodd T卯m y Food Dudes a鈥檙 Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol wobr glodfawr medal aur y Prif Swyddog Meddygol dros iechyd cyhoeddus.
Am fwy o wybodaeth, ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2010