Ymgyrch Genedlaethol yn Cydnabod Cyfraniad Myfyriwr Nyrsio o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 i Wella Ansawdd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Mae Clare Woodcock, myfyriwr ail flwyddyn sy'n astudio am radd mewn Nyrsio, wedi ennill lle yn y sydd i'w gynnal ym Mharis yn ddiweddarach eleni.
Mae'r rhaglen genedlaethol dros wella ansawdd gofal iechyd yn y GIG yng Nghymru wedi cydnabod ei hymroddiad i leihau peryglon haint i gleifion mewn ysbytai drwy fynnu safonau uchel o hylendid a glanweithdra. Trwy fynd i'r gynhadledd bwysig hon caiff Clare gyfle i gyfarfod ag arbenigwyr rhyngwladol ym maes gwella gofal iechyd ac edrych ar ffyrdd newydd o barhau 芒'i gwaith yn yr agwedd bwysig hon o ofalu am gleifion.
Meddai Clare, "Dwi'n teimlo ei bod yn fraint fawr cael y cyfle yma i gyfrannu at wella gofal iechyd cleifion yng Nghymru. Dwi'n gobeithio cael cyfle i ddysgu technegau newydd a syniadau ymarferol i wella ansawdd gofal iechyd a gallaf rannu'r rhain wedyn gyda fy nghyd-fyfyrwyr nyrsio i'w defnyddio yn ein hymarfer clinigol."
Meddai'r , Pennaeth yr Ysgol, "Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn falch iawn o lwyddiant Clare. Fel Ysgol rydym yn ystyried bod ein gwaith o hybu dulliau gweithredu gorau yn hynod bwysig, a chefnogi myfyrwyr i roi arweiniad ym maes gwella'r gofal a'r profiad a gaiff cleifion. Mae'r wobr y mae Clare wedi'i chael yn dangos sut y gall ein myfyrwyr ddod yn arweinwyr tra maent yn dal i ddysgu."
Mae Clare wedi cael ei chefnogi gan y darlithydd, Carol Westwell, a ddywedodd, "Mae ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn hynod falch o weithio mewn partneriaeth 芒'r rhaglen 1000 Lives + er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cyfrannu at wella ansawdd y GIG yng Nghymru. Dwi'n hynod falch o weld llwyddiant Clare a'r cyfraniad gwerthfawr y mae'n ei wneud i wella'r profiad a gaiff cleifion ac arwain dulliau o wella ansawdd o fewn ymarfer clinigol."
Am fwy o wybodaeth am yr Ysgol ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2014