Ymgyrchydd canser tra enwog yn siarad efo myfyrwyr
Mae Jules a’i g诺r, Mike Peters, arweinydd y gr诺p roc, The Alarm, ill dau wedi profi canser, ac maent yn enwog am godi ymwybyddiaeth ac arian drwy eu helusen canser, .
Roedd Jules yn ddidwyll wrth rannu ei phrofiadau, o gefnogi ei g诺r, sydd wedi byw gyda lewcemia er 1995, ac o’i phrofiad personol o ganser y fron.
Mae Jules wedi bod yn agored iawn wrth rannu ei phrofiad o ganser drwy’r holl beth. Fe esboniodd i’r myfyrwyr ei bod wedi profi cefnogaeth a chariad drwy fod yn onest am ei diagnosis gyda chyfeillion a theulu. Cafodd Jules ei hun yn y sefyllfa anarferol o gael ei ffilmio ar gyfer rhaglen ddogfen wrth fynd drwy’r broses, ac fe wnaeth y penderfyniad dewr i rannu’i phrofiadau wrth dderbyn y diagnosis.
Rhannodd ei phrofiadau o sut yr oedd hi a’i g诺r yn teimlo, a’u strategaethau ymdopi gwahanol, a’u profiadau o’r triniaethau gyda’r meddygon dan hyfforddiant.
Meddai Dr Elinor Champan, darlithydd Gwyddorau Meddygol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料:
“Roeddem ni wrth ein boddau gwahodd Jules i siarad gyda’n myfyrwyr ac ateb cwestiynau, fel rhan o’u modiwl yn astudio canser.
Yr argraff gref a gafwyd o wrando ar brofiadau Jules oedd pa mor bwysig yw hi i ddoctoriaid drin nid yn unig y clefyd, ond i gadw ffocws ar y person yn ei gyfanrwydd.”
Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn cyflwyno rhaglen 4 blynedd C21 meddygaeth gogledd Cymru i raddedigion (MBBCh) mewn cydweithrediad ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Dysgir y rhaglen yn gyfan gwbl yng ngogledd Cymru gyda lleoliadau ledled y rhanbarth, a'n nod yw hyfforddi'r meddygon gorau ar gyfer Cymru a'r Deyrnas Unedig yn ehangach trwy ddarparu addysgu o ansawdd uchel, a phrofiad dysgu rhagorol yn seiliedig ar fwy o gyswllt clinigol.
Bydd myfyrwyr ar y rhaglen feddygaeth hon yn dilyn yr un cwricwlwm â'r rhai sydd yng Nghaerdydd, ond gan ganolbwyntio mwy ar feddygaeth gymunedol trwy amrywiaeth o leoliadau clinigol mewn amgylcheddau amrywiol gan gynnwys blwyddyn lawn mewn meddygfa deulu, amser mewn ysbytai dysgu mawr, meddygaeth fynyddig ac amgylcheddau gwledig.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2021