Yr Athro Emily Cross a Dathliadau 10 Mlynedd y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd
Gwahoddwyd Yr Athro Emily Cross o Ysgol Seicoleg Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 i siarad yn Nghynhadledd Dathliadau 10 Mlynedd y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd yn ddiweddar, lle bu鈥檔 rhannu llwyfan gyda rhai o ymchwilwyr mwyaf blaenllaw Ewrop.
Yn 么l yn 2007, sefydlodd y Comisiwn Ewropeaidd y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd gyda'r nod o annog ymchwil rhagorol yn Ewrop drwy gyfrwng cyllid cystadleuol, gan gefnogi ymchwilwyr gorau pob maes astudio ac o unrhyw genedligrwydd.
Ers hynny, mae'r Cyngor wedi cael effaith sylweddol ar y tirlun ymchwil Ewropeaidd. Mewn bron i ddeng mlynedd, mae wedi ei ariannu bron i 7,000 o ymchwilwyr a thrwy hynny, wedi cefnogi mwy na 40,000 o aelodau t卯m. Mae鈥檙 gefnogaeth wedi cael ei chydnabod gan yn agos at 100,000 o erthyglau mewn cyfnodolion gwyddonol rhyngwladol.
"Rwy鈥檔 hynod falch o鈥檙 cyfle hwn i rannu fy mhrosiect grant cychwynnol ar roboteg cymdeithasol fel rhan o ddathliad 10 mlynedd y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd. Mae fy mhrosiect yn anelu at roi dulliau niwrowyddoniaeth cymdeithasol ar waith wrth astudio rhyngweithio dynol-robot, a b没m yn siarad am y cynnydd yr wyf wedi ei wneud ers dechrau gwaith hwn ym mis Hydref a nodi hefyd ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Rwyf wedi elwa'n fawr o'r cyllid a chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd yn ystod fy ngyrfa yma ym Mangor ac hefyd mewn swyddi blaenorol yn yr Almaen a'r Iseldiroedd, ac roeddwn yn edrych ymlaen at gael mynegi fy niolch am y cymorth Ewropeaidd hwnnw cyn iddo ddod i ben.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2017