Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards yn cyflwyno mewn fforwm rhyngwladol
Mae鈥檙 Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Ysgolion Gwyddorau Gofal Iechyd a Gwyddorau Meddygol, yn Washington DC yr wythnos hon i draddodi cyflwyniad i Fforwm Polisi Iechyd Alumni Harkness Cronfa鈥檙 Gymanwlad. Mae'n cyflwyno ymchwil yno gyda chydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar Wasanaeth Gofal Gwell yn y Cartref Ynys M么n sy'n caniat谩u i gleifion h欧n yn bennaf dderbyn gofal yn y cartref drwy eu meddyg teulu a'r Gwasanaethau Nyrsio Cymunedol Uwch. Mae'r gofal meddygol arbenigol hwn yn y cartref, gyda chefnogaeth gan ymgynghorydd ysbyty, yn ategu'r gwasanaeth ymateb cyflym ar yr ynys ac yn meithrin perthynas agosach rhwng y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r gwasanaeth wedi cael derbyniad da gan gleifion a gofalwyr teulu ac mae rhywfaint o dystiolaeth ei fod yn gostwng derbyniadau i'r ysbyty.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2014