Ysgol Seicoleg Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ i chwarae rhan flaenllaw mewn ymchwil £1.1.M MRC yn ymwneud â dibyniaeth a mania
Bydd , Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn gwneud ymchwil i driniaeth ffarmacolegol newydd ar gyfer afiechydon seiciatrig. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a Phrifysgol Rhydychen, a Phrifysgol British Columbia, wedi cael nawdd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol i werthuso gallu cyffur newydd i leihau ymddygiadau byrbwyll a gysylltir â dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn ogystal â mania.
Dywedodd yr Athro Robert Rogers, sy'n arwain cyfraniad Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ at yr ymchwil; " Mae ymddygiadau byrbwyll yn nodwedd arwyddocaol o ddibyniaeth a chlefydau eraill megis anhwylder deubegynnol. A gall byrbwylltra gymhlethu triniaeth, er enghraifft, trwy ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl â phroblemau camddefnyddio alcohol neu gyffuriau yn llithro'n ôl. Serch hynny, ar hyn o bryd, nid oes dim ymyriadau effeithiol i helpu pobl i ymdopi â'r agwedd hon ar yr afiechydon hyn. Bydd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at y gwaith arbrofol hwn a fydd, os llwydda, yn gosod y sylfeini ar gyfer treialon clinigol dilynol mewn cleifion.
Rhoddwyd £1,113,146 o nawdd i gyd a daw'r arian trwy Gynllun Ariannu Llwybrau Datblygol y Cyngor Ymchwil Feddygol.
Dr John Parkinson, Pennaeth Gweithredol yr Ysgol Seicoleg:
““Mae'r ysgol wrth ei bodd yn croesawu'r Athro Rogers sydd newydd ymuno â ni o Adran Seiciatreg Prifysgol Rhydychen. Mae diddordeb Robert mewn seicoffarmacoleg yn ychwanegiad gwirioneddol gyffrous i'n portffolio ac mae ei gyfraniad at yr ymchwil hon dan nawdd y Cyngor Ymchwil Feddygol yn ddatblygiad newydd sbon i'r ysgol. Mae'n arbennig o werthfawr yng nghyd-destun ymgyrch strategol Llywodraeth Cymru i brifysgolion Cymru ennill y math yma o nawdd."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2014