Ymchwil yn defnyddio deunydd perthnasol
Mae’n rhaid i unrhyw weithgarwch ymchwil yn y Brifysgol sy’n cynnwys defnyddio deunyddiau perthnasol fel y’u diffinnir dan y Ddeddf, gan gynnwys organau, meinweoedd a chelloedd, ddilyn Amodau Safonol llym, a gweithredu’n unol 芒’r聽. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ymchwilwyr sicrhau bod eu defnydd o feinwe dynol wedi'i gymeradwyo'n foesegol trwy bwyllgor moeseg ymchwil y GIG a bod y cydsyniad priodol ar waith. Rhaid i ymchwilwyr sy'n dymuno gwneud ymchwil gan ddefnyddio meinweoedd dynol ymgynghori ag Unigolyn Dynodedig y Brifysgol cyn dechrau ar unrhyw ymchwil er mwyn sicrhau bod y cynigion ymchwil yn mynd gerbron Pwyllgor Rheoli Awdurdod Meinweoedd y Brifysgol ac yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG.
Os yw ymchwil a gymeradwywyd gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG yn ymwneud 芒 chaffael deunydd perthnasol yna bydd yn rhaid i chi drefnu trwydded caffael a chytundebau trosglwyddo deunydd. Bydd angen i chi gysylltu 芒'ch聽Cyfarwyddwr Project Adrannol聽cyn gynted a phosibl i drefnu hyn.
Mae'r Awdurdod Meinweoedd Dynol wedi cyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio deunyddiau perthnasol ar gyfer ymchwil ar ffurf聽.
Mae deunydd perthnasol dan y Ddeddf sy’n cael ei storio at ddibenion ymchwil wedi’i eithrio o ofynion trwyddedu Meinweoedd Dynol os yw’r meinwe:
- Yn cael ei gadw at broject ymchwil penodol a gymeradwywyd gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG
- Gan berson a fu farw dros 100 mlynedd yn 么l
- Yn cael ei gadw ar gyfer ei drosglwyddo i rywle arall cyn belled 芒’i fod yn cael ei gadw am ychydig oriau neu ddyddiau ac yn bendant am ddim mwy nag wythnos a bod hynny gyda chymeradwyaeth gan yr Unigolyn Dynodedig neu gynrychiolydd enwebedig o Bwyllgor Rheoli Awdurdod Meinweoedd Dynol y Brifysgol.
- Yn cael ei gadw tra’i fod yn cael ei brosesu gyda’r bwriad o wneud y meinwe yn anghellog cyn belled 芒 bod y prosesu yn cymryd mater o oriau neu ddyddiau ac yn bendant ddim mwy nag wythnos a bod hynny gyda chymeradwyaeth gan gynrychiolydd o Bwyllgor Rheoli Awdurdod Meinweoedd Dynol y Brifysgol.
- Wedi cael ei greu y tu allan i'r corff dynol ac nad yw'n ymwneud mewn unrhyw ffordd 芒 chymhwyso meinweoedd neu gelloedd i fodau dynol
Os nad oes angen deunyddiau perthnasol ar gyfer ymchwil mwyach bydd angen i chi gysylltu 芒'ch聽Cyfarwyddwr Project Adrannol聽i drefnu cael eu gwared.